Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol
Asesiad o'r Opsiynau a'r Hierarchaeth Aneddiadau
4.1
Opsiwn 1:
Hierarchaeth Aneddiadau y CDLl a fabwysiadwyd (2007 -
2022)
Mabwysiadodd CDLl Conwy (2007 - 2022) hierarchaeth
aneddiadau pum haen (gweler y tabl isod) ar sail asesiad
cynaliadwyedd o bob anheddiad. Mae'r CDLl a fabwysiadwyd
hefyd yn nodi dwy ardal strategol lle mae'r aneddiadau o
fewn Ardal Strategaeth Datblygu Trefol ac Ardal Strategaeth
Datblygu Gwledig;
Opsiwn 1: Hierarchaeth Aneddiadau y CDLl a fabwysiadwyd (2007 - 2022) |
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol |
Ardaloedd Trefol |
Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel. |
Ardaloedd Gwledig |
Prif Bentrefi (Haen 1) |
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Llysfaen, Glan Conwy. |
Prif Bentrefi (Haen 2) |
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw*. |
Pentrefi Llai |
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Llansan Siôr, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes. |
Pentrefannau |
Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron. |
* Yn rhannol o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri
Opsiwn 1 - Crynodeb o'r Asesiad:
Mae Opsiwn 1 yn parhau â'r hierarchaeth aneddiadau a
gyflwynwyd yn y CDLl ac felly dyna'r opsiwn rhesymegol am
resymau yn ymwneud â pharhad yn unig. Fodd bynnag, mae
angen cwestiynu gwerth a rhesymeg yr Ardal Strategaeth
Datblygu Trefol. Mae hefyd yn dosbarthu rhai aneddiadau
llai sy'n agos at y prif aneddiadau arfordirol ac felly mae
hyn yn cyfyngu ar eu synergedd a'u cyfradd twf. Hefyd, nid
yw'r dull hwn yn ystyried cyfyngiadau'r aneddiadau
arfordirol dwyreiniol sy'n cael eu heffeithio gan berygl
llifogydd.
Opsiwn 2:
Yr un dull gweithredu ag Opsiwn 1 ond newid yr
hierarchaeth aneddiadau i symud / ailddosbarthu rhai
aneddiadau ar sail eu cynaliadwyedd. Yn syml iawn,
mae'r opsiwn hwn yn diweddaru'r CDLl a fabwysiadwyd yn
dilyn gwerthusiad newydd o'r aneddiadau yn erbyn rhai meini
prawf cynaliadwyedd a nodwyd yn BP03. Er enghraifft,
efallai bydd rhai aneddiadau wedi ennill/colli seilwaith
cymunedol hanfodol sydd bellach yn effeithio ar
gynaliadwyedd yr anheddiad a'i safle yn yr hierarchaeth.
Opsiwn 2: Yr un dull gweithredu ag opsiwn 1 ond newid yr hierarchaeth aneddiadau i symud / ailddosbarthu rhai aneddiadau ar sail asesiad cynaliadwyedd wedi'i ddiweddaru |
Trefol |
Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel. |
Gwledig |
Canolfan Wasanaethu Leol |
Llanrwst |
Prif Bentrefi (Haen 1) |
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Llysfaen, Glan Conwy |
Prif Bentrefi (Haen 2) |
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw* |
Pentrefi Llai |
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Llansan Siôr, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes. |
Pentrefannau |
Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron. |
* Yn rhannol o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri
Opsiwn 2 - Crynodeb o'r Asesiad:
Mae'r opsiwn hwn yn parhau â dull gweithredu'r CDLl a
fabwysiadwyd ond mae'n rhoi cyfle i werthuso a diweddaru'r
hierarchaeth aneddiadau. Diffinnir Llanrwst ar ei ben ei
hun oherwydd ystyrir ei bod yn dref unigryw yn y sir gan ei
bod yn ganolfan wasanaethu wledig sy'n gwasanaethu nifer o
bentrefi amgylchynol, o fewn a'r tu hwnt i ardal y cynllun.
Mae'r ardal strategaeth datblygu trefol hefyd wedi'i dileu
ond mae'r aneddiadau yn yr hierarchaeth yn aros yr un fath.
Opsiwn 3:
Yr un dull gweithredu ag Opsiwn 2 uchod ond gan
gynnwys addasiadau i ddosbarthiad rhai aneddiadau ar sail
eu hagosrwydd at aneddiadau trefol lefel uchel a'u
perthynas swyddogaethol gyda'r aneddiadau hyn. Er
enghraifft, er bod rhai aneddiadau yn cael eu hystyried yn
rhai gwledig yn y CDLl cyfredol, mae rhai aneddiadau
gwledig mewn ardaloedd trefol ac maent yn cyrraedd y meini
prawf o ran mynediad at ardaloedd trefol ac felly byddent
yn gallu cynnal mwy o dwf.
Opsiwn 3: Yr un dull gweithredu ag Opsiwn 2 uchod ond gan gynnwys addasiadau i ddosbarthiad rhai aneddiadau ar sail eu hagosrwydd at aneddiadau trefol lefel uwch a'u perthynas swyddogaethol gyda'r aneddiadau hyn. |
Trefol |
Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel. |
Aneddiadau dibynnol |
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Glan Conwy |
Gwledig |
Canolfan Wasanaethu Leol |
Llanrwst |
Prif Bentrefi |
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Llysfaen, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw* |
Pentrefi Llai |
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Llansan Siôr, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes. |
Pentrefannau |
Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron. |
* Yn rhannol o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri
Opsiwn 3 Crynodeb o'r Asesiad:
Mae'r opsiwn hwn yn addasu dull gweithredu'r CDLl a
fabwysiadwyd drwy ailddosbarthu rhai o Brif Bentrefi Haen 1
yn Aneddiadau Trefol Dibynnol, oherwydd eu hagosrwydd
daearyddol at aneddiadau trefol a'u cysylltiadau
swyddogaethol gyda'r aneddiadau hyn. Mae hyn yn cydnabod eu
lleoliad cynaliadwy o ran agosrwydd at gysylltiadau
trafnidiaeth, cyflogaeth ac amwynderau, gan gydnabod ar yr
un pryd bod yr aneddiadau hyn yn llai o ran eu graddfa na'r
ardaloedd trefol, a dylai datblygiadau arfaethedig
adlewyrchu hyn. Fel yn achos Opsiwn 2, diffinnir Llanrwst
yn Ganolfan Wasanaethu Leol, yn hytrach nag anheddiad
trefol. Mae hyn ar sail ei safle unigryw yn y sir fel prif
anheddiad gwasanaeth nifer o bentrefi amgylchynol, y tu
fewn a'r tu allan i ardal y cynllun.
Opsiwn 4:
Hierarchaeth Aneddiadau newydd sy'n ystyried yr Aneddiadau
Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol a nodwyd yng
Nghynllun Gofodol Cymru. Byddai'r opsiwn hwn yn
ychwanegu haen arall i'r ardaloedd trefol i adlewyrchu'r
Aneddiadau Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol yng
Nghynllun Gofodol Cymru.
Opsiwn 4: Hierarchaeth Aneddiadau newydd sy'n ystyried yr Aneddiadau Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol a nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru. |
Trefol |
Aneddiadau Cynradd Allweddol |
Llandudno, Cyffordd Llandudno, Conwy, Bae Colwyn. |
Aneddiadau Allweddol |
Llanfairfechan, Llanrwst, Penmaenmawr, |
Aneddiadau Eilaidd |
Abergele/Pensarn, Bae Penrhyn /Ochr Penrhyn, Deganwy/Llanrhos, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Mochdre, Tywyn/Bae Cinmel. |
Gwledig |
Prif Bentrefi Haen 1 |
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Glan Conwy, Llysfaen. |
Prif Bentrefi Haen 2 |
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw* |
Pentrefi Llai |
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Llansan Siôr, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes. |
Pentrefannau |
Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron |
* Yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri
Opsiwn 4 Crynodeb o'r Asesiad:
Mae'r dull gweithredu hwn yn nodi'r canolbwynt fel y
dangosir yng Nghynllun Gofodol Cymru ac yn grwpio'r
Aneddiadau Cynradd Allweddol ac yna'r Aneddiadau Allweddol
eraill yn y gytref arfordirol. Mae'r categorïau dilynol yn
aros yr un fath. Mae'r rhan fwyaf o Ardal y CDLl o fewn
Ardal Strategaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yng Nghynllun
Gofodol Cymru. Hefyd, mae nifer o aneddiadau un ai yn gyfan
gwbl o fewn ardal y Gogledd Orllewin, fel Llanfairfechan a
Phenmaenmawr, neu maent yn yr ardal a rennir gan y ddau
ranbarth (Llandudno, Conwy, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn
a Llanrwst). Golyga hyn fod yr aneddiadau trawsffiniol hyn
mewn lleoliad strategol ar gyfer cysylltu dwy ardal o Gymru
a thu hwnt; drwy gysylltiadau â Lloegr ac Iwerddon. Mae
Llanrwst yn dref hynod gan ei bod yn cysylltu â thrydedd
Ardal Strategaeth: Canolbarth Cymru. Mae gan dref Llanrwst
swyddogaeth unigryw yn y sir fel canolfan wasanaethu wledig
a phrif dref sawl pentref amgylchynol, o fewn a thu hwnt i
ardal y cynllun.
Opsiwn 5:
Cyfuniad sy'n adlewyrchu Opsiynau 3 a 4
uchod. O dan yr opsiwn hwn byddai rhai aneddiadau
gwledig yn cael eu hasesu ar sail eu hagosrwydd at
aneddiadau trefol lefel uwch a'u perthynas swyddogaethol
gyda'r aneddiadau hyn a byddai haen ychwanegol yn cael ei
chynnwys o fewn yr aneddiadau gwledig i adlewyrchu'r
Aneddiadau Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol yng
Nghynllun Gofodol Cymru.
Opsiwn 5: Cyfuniad sy'n adlewyrchu Opsiynau 3 a 4 uchod. |
Trefol |
Aneddiadau Allweddol |
Llandudno, Cyffordd Llandudno, Conwy, Bae Colwyn, Llanfairfechan, Penmaenmawr. |
Aneddiadau Eilaidd |
Abergele/Pensarn, Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn, Deganwy/Llanrhos, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Mochdre, Tywyn/Bae Cinmel |
Aneddiadau Dibynnol |
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Glan Conwy, |
Gwledig |
Canolfan Wasanaethu Leol |
Llanrwst |
Prif Bentrefi |
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Llysfaen, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw* |
Pentrefi Llai |
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-Cafn, Tyn-y-Groes. |
Pentrefannau |
Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron |
* Yn rhannol o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri
Opsiwn 5 - Crynodeb o'r Asesiad:
Mae'r opsiwn hwn yn cyflwyno dull gweithredu Cynllun
Gofodol Cymru ynghyd ag ystyried hygyrchedd a
chynaliadwyedd lleoliadau gwledig presennol mewn perthynas
â'r ardaloedd trefol, yn enwedig y rhai sydd yn agos at
goridor yr A55. Efallai nad oes gan yr aneddiadau hyn
ddewis llawn o gyfleusterau eu hunain, ond mae eu
hagosrwydd at aneddiadau allweddol ac eilaidd yn golygu bod
llawer o gydberthynas rhyngddynt o ran gwasanaethau. Mae'r
dull gweithredu hwn yn adlewyrchu'r cyfyngiadau yn nwyrain
y Fwrdeistref Sirol ac yn hyrwyddo Hierarchaeth Aneddiadau
newydd a fyddai o bosibl â'r capasiti a'r seilwaith
angenrheidiol i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Ystyrir
Llanrwst yn unigryw yn y sir gan ei bod yn ganolfan
wasanaethu wledig a phrif dref ar gyfer nifer o bentrefi
amgylchynol, o fewn a thu hwnt i ardal y cynllun.
(3) Cwestiwn 1: Yn eich barn chi, pa Hierarchaeth Aneddiadau yw'r opsiwn gorau? (Cyfeiriwch at Bapur Cefndir 3 'Hierarchaeth Aneddiadau' i weld asesiad mwy manwl o'r Opsiynau)
(3) Opsiwn 1
(1) Opsiwn 2
(4) Opsiwn 3
(4) Opsiwn 4
(5) Opsiwn 5
(4) Cwestiwn 2: A oes unrhyw opsiynau Hierachaeth Aneddiadau eraill yr hoffech eu cynnig?