Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

Strategaeth Dwf CDLlN Conwy

3.1 Opsiynau Twf Gofodol a Dosbarthiad (gan gynnwys hierarchaeth aneddiadau)

Wrth fynd ati i greu mannau cynaliadwy yng Nghonwy, y cam cyntaf yw ystyried lefel y datblygiad sydd ei angen (e.e. tai a chyflogaeth) a lle dylai'r datblygiad hwn gael ei leoli yng Nghonwy. Bydd y CDLlN yn darparu'r cyd-destun ar gyfer hyn drwy nodi lefel y twf ac ardaloedd ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys hierarchaeth aneddiadau.

Dylai Strategaeth Dwf CDLlN Conwy gyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (cyfeiriwch at Atodiad 2), gan gynnwys lleihau'r angen i deithio a gwella hygyrchedd drwy ddulliau heblaw'r car preifat. Dylid hyrwyddo cydbwysedd eang rhwng tai a chyfleoedd cyflogaeth yn yr ardaloedd trefol a gwledig i leihau'r angen am gymudo pellteroedd maith. Dylai awdurdodau cynllunio hefyd fabwysiadu polisïau i leoli prif gynhyrchwyr y galw am deithio, fel tai, cyflogaeth, adwerthu a hamdden, a chyfleusterau cymunedol (gan gynnwys llyfrgelloedd, ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai), mewn ardaloedd trefol presennol neu leoliadau eraill sydd yn hawdd eu cyrraedd, neu gall fod yn hawdd eu cyrraedd, ar droed neu feic, neu sy'n cael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid lleoli datblygiadau ar ddwysedd uwch ger canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus mawr neu gyfnewidfeydd lle mae gan y seilwaith trafnidiaeth y capasiti ar gyfer mwy o ddefnydd ac mae hyn yn cyd-fynd â materion ynghylch cynnal iechyd, amwynder a llesiant pobl.

Mae rhan hon y ddogfen yn cyflwyno'r opsiynau Strategaeth Dwf ar gyfer CDLlN Conwy, sy'n cynnwys yr Hierarchaeth Aneddiadau, Lefel Twf Gofodol (faint o dai a chyflogaeth) a Dosbarthiad Gofodol (lleoliad y twf hwnnw). Mae opsiynau'r Strategaeth Dwf yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a nodwyd ym Mhapur Ymgynghori 1 'Materion sy'n Flaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion' a Phapurau Testun a Phapurau Cefndir cysylltiedig.

Un nodwedd bwysig o system y CDLl yw'r pwyslais ar adnabod opsiynau realistig sy'n adlewyrchu'r dystiolaeth ac yna rhoi prawf arnynt drwy ddefnyddio amcanion integredig y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd Strategol. Dylai'r opsiynau fod yn: rhai gwirioneddol a rhesymol, dylent adlewyrchu'r dystiolaeth a materion /amcanion y cynllun, dylent ddiwallu anghenion yr ardal a dystiwyd, dylai fod modd eu cyflawni o fewn cyfnod y cynllun, dylent gydymffurfio â pholisi cenedlaethol ac ategu cynlluniau/strategaethau rhanbarthol neu gymdogaeth a dylent fod yn hyblyg ac yn gynaliadwy. Er mwyn diwygio cynllun, bydd yn rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried priodoldeb yr opsiynau a gafodd eu hystyried yn flaenorol fel rhan o'r CDLl presennol a fabwysiadwyd (2007 - 2022).

Mae tair prif elfen i'r rhan hon o'r ddogfen;

  1. Hierarchaeth Aneddiadau: Mae nodi hierarchaeth aneddiadau yn bwysig gan fod hyn yn gweithredu fel fframwaith i ddatblygu strategaeth ofodol y CDLlN.
  2. Opsiynau Twf: yn canolbwyntio ar lefelau twf y dyfodol ar gyfer tai a chyflogaeth dros gyfnod y cynllun (2018 - 2033).
  3. Opsiynau Dosbarthiad Gofodol: yn nodi lleoliadau posibl ar gyfer y twf.

Mae polisïau yn seiliedig ar destunau penodol yn debygol o ddod i'r amlwg ar ôl ystyried yr opsiynau hyn ar gam diweddarach wrth baratoi'r CDLlN.

Hierarchaeth Aneddiadau

Aseswyd pob un o'r aneddiadau a nodwyd yn y CDLl presennol a fabwysiadwyd (2007 - 2022) o ran eu gwasanaethau a'u cyfleusterau ochr yn ochr â'u maint, poblogaeth a chymeriad ac a ydynt eisoes yn cael eu hadnabod fel aneddiadau (cyfeiriwch at Bapur Cefndir 3 - Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau). Mae nodi hierarchaeth aneddiadau yn bwysig gan fod hyn yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer datblygu'r CDLlN. Hefyd, ystyriwyd a all yr aneddiadau gynnal twf a'r angen am seilwaith.

Pwrpas yr Asesiad Hierarchaeth Aneddiadau yw cynnal asesiad cadarn o gynaliadwyedd aneddiadau a darparu'r sylfaen dystiolaeth er mwyn profi a yw hierarchaeth aneddiadau y CDLl presennol yn dal i fod yn addas i'r pwrpas a dyfeisio a phrofi amrediad o ddulliau gweithredu eraill.

Rydym wedi edrych yn ofalus ar nodweddion a rolau trefi, pentrefi a phentrefannau'r sir. Rydym wedi ystyried eu gwasanaethau a chyfleusterau presennol, cysylltiadau trafnidiaeth, poblogaeth a chymeriad ffisegol. Hefyd, rydym wedi ystyried cyfyngiadau allweddol mewn rhai aneddiadau yn ogystal â deddfwriaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae hyn wedi ein helpu i ddeall pa drefi a phentrefi fyddai'r mannau mwyaf addas ar gyfer tai a swyddi newydd. Rydym wedi grwpio a dosbarthu aneddiadau'r sir ar sail ein hasesiad i greu nifer o opsiynau hierarchaeth aneddiadau ar gyfer y CDLlN.

Opsiynau'r Hierarchaeth Aneddiadau

Mae Papur Cefndir 3 - Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau wedi rhoi sylfaen dystiolaeth dda ar gyfer pob un o'r aneddiadau ac opsiynau'r hierarchaeth ac mae'n darparu'r fframwaith ar gyfer edrych ar opsiynau i gategoreiddio aneddiadau yn y CDLlN. Fel yn achos pob cynnig yn y ddogfen hon, ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniadau ar yr hierarchaeth a ffefrir. Bydd mewnbwn budd-ddeiliaid allweddol o gymorth i ddewis yr opsiynau a ffefrir, yn ogystal â'r dystiolaeth a safleoedd ymgeisiol.
Mae Crynodeb o Opsiynau'r Hierarchaeth Aneddiadau ac asesiad byr o bob opsiwn wedi'u nodi isod:

Opsiwn 1: Parhau â Hierarchaeth Aneddiadau y CDLl presennol heb unrhyw newidiadau. Byddai lefel y twf a'r dosbarthiad gofodol a ddewisir yn defnyddio Hierarchaeth Aneddiadau y CDLl presennol i gynnal twf.

Opsiwn 2: Yr un dull gweithredu ag Opsiwn 1 ond newid yr hierarchaeth aneddiadau i symud / ailddosbarthu rhai aneddiadau ar sail eu cynaliadwyedd. Yn syml iawn, mae'r opsiwn hwn yn diweddaru'r CDLl a fabwysiadwyd yn dilyn gwerthusiad newydd o'r aneddiadau yn erbyn rhai meini prawf cynaliadwyedd a nodwyd yn BP/9. Er enghraifft, efallai bydd rhai aneddiadau wedi ennill/colli seilwaith cymunedol hanfodol sydd bellach yn effeithio ar gynaliadwyedd yr anheddiad a'i safle yn yr hierarchaeth. Bydd ailddosbarthu'r aneddiadau yn y dull hwn yn sicrhau bod twf yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd gynaliadwy.

Opsiwn 3: Yr un dull gweithredu ag Opsiwn 2 uchod ond gan gynnwys addasiadau i ddosbarthiad rhai aneddiadau ar sail eu hagosrwydd at aneddiadau trefol lefel uwch a'u perthynas swyddogaethol gyda'r aneddiadau hyn. Er enghraifft, er bod rhai aneddiadau yn cael eu hystyried yn rhai gwledig yn y CDLl cyfredol, mae rhai aneddiadau gwledig mewn ardaloedd trefol ac maent yn cyrraedd y meini prawf o ran mynediad at ardaloedd trefol ac felly byddent yn gallu cynnal mwy o dwf.

Opsiwn 4: Hierarchaeth Aneddiadau newydd sy'n ystyried yr Aneddiadau Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol a nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru. Byddai'r opsiwn hwn yn ychwanegu haen arall at yr ardaloedd trefol i adlewyrchu'r Aneddiadau Cynradd Allweddol a'r Aneddiadau Allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru.

Opsiwn 5: Cyfuniad o Opsiynau 3 a 4 uchod. O dan yr opsiwn hwn byddai rhai aneddiadau gwledig yn cael eu hasesu ar sail eu hagosrwydd at aneddiadau trefol lefel uwch a'u perthynas swyddogaethol gyda'r aneddiadau hyn a byddai haen ychwanegol yn cael ei chynnwys o fewn yr aneddiadau gwledig i adlewyrchu Aneddiadau Cynradd Allweddol ac Aneddiadau Allweddol Cynllun Gofodol Cymru.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig