Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 3: Rhestr hir yr Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

9.1

Opsiynau Dosbarthiad Twf - Asesiad o'r Rhestr Hir

Opsiwn Dosbarthiad Twf

Disgrifiad

Asesiad Cychwynnol

Bwrw Ymlaen

Opsiwn 1: Ailadrodd y CDLl a fabwysiadwyd

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Opsiwn twf i'w ystyried yn erbyn Opsiynau 1 a 2 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn yn yr hierarchaeth aneddiadau.

Defnyddio'r hierarchaeth aneddiadau a fabwysiadwyd ar hyn o bryd yn y CDLl (mabwysiadwyd a gwerthuswyd) er mwyn caniatáu dosbarthiad cyfrannol cynaliadwy o ddatblygiad yn seiliedig ar anghenion y gymuned, maint y boblogaeth a meini prawf cynaliadwyedd. Fel yn achos y CDLl dosbarthwyd 85% o'r twf yn yr ardaloedd trefol a 15% yn yr ardal wledig (Aneddiadau Haen 1 a 2)

Byddai'r dull gweithredu hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth yn hierarchaeth aneddiadau'r CDLl cyfredol ac mae'n ceisio caniatáu dosbarthiad twf cyfrannol ar sail cynaliadwyedd. Byddai datblygiad yn canolbwyntio ar dair haen uchaf yr hierarchaeth aneddiadau (Coridor Trefol yr A55, Aneddiadau Haen 1 a Haen 2), yn seiliedig ar nodi'r aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy. Byddai'r dull hwn yn ystyried cynaliadwyedd cyffredinol, Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 10.

Byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu yn yr aneddiadau gwledig y tu allan i Aneddiadau Haen 1 a Haen 2, er mwyn gwarchod cymeriad lleol a darparu ar gyfer anghenion tai lleol.

Ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei osod ar restr fer o opsiynau. Fodd bynnag, byddai'n rhaid ystyried diffyg datblygu gwledig blaenorol a chyfyngiadau rhai aneddiadau trefol wrth gynnal gwerthusiad llawn

IE

Opsiwn 2: Dosbarthu Twf i'r holl ganolfannau trefol ar hyd Coridor yr A55

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Mae'r opsiwn twf yn fwyaf addas ar gyfer opsiynau 1, 2 a 3 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Eto i gyd, gellir ei ystyried yn erbyn yr holl ardaloedd trefol a nodwyd yn Opsiynau 1, 2, 3, 4 a 5 yr Hierarchaeth. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn adlewyrchu un o'r opsiynau hyn yn yr hierarchaeth aneddiadau.

Cyfeirio'r holl ddatblygiadau i'r canolfannau trefol ar hyd Coridor yr A55 fel y nodwyd yn yr hierarchaeth bresennol gyda'r capasiti a'r seilwaith i gynnal datblygiad. O dan yr opsiwn hwn ni fyddai unrhyw ddyraniadau gwledig ar gyfer datblygu.

Byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu yn yr aneddiadau gwledig i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored.

Ystyrir bod canolbwyntio twf ar ganolfannau trefol Coridor yr A55 yn cyd-fynd â chanllawiau Polisi Cynllunio Cymru o ran nodi'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygu, gan mai yn yr aneddiadau mwyaf hyn y mae'r seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau fel arfer. Mae'r dull hwn hefyd yn ystyried y pum Egwyddor Cynllunio allweddol ac yn adlewyrchu casgliadau'r Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r Asesiad o'r Farchnad Eiddo.

Byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu yn yr aneddiadau gwledig i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd.

Ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei osod ar restr fer o opsiynau. Fodd bynnag, yn debyg i'r materion a godwyd yn Opsiwn 1, mae angen mwy o waith gwerthuso a chasglu sylfaen dystiolaeth i asesu capasiti a'r gallu i gyflenwi hyn mewn rhai aneddiadau gwledig e.e. bydd yn rhaid ystyried Perygl Llifogydd a Datrysiadau Dylunio Blaengar i benderfynu a ellir cynnal datblygiad newydd yn yr aneddiadau trefol yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol e.e. Pensarn, Tywyn a Bae Cinmel a Datrysiad Rheoli Traffig yn Abergele

IE

Opsiwn 3: Twf trefol penodol yn unol â Chynllun Gofodol Cymru.

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 4 a 5 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn

Cyfeirio datblygiad yn unol ag Aneddiadau Cynradd Allweddol ac Aneddiadau Allweddol Cynllun Gofodol Cymru, gyda'r capasiti a'r seilwaith i gynnal datblygiad.

Byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu yn yr aneddiadau gwledig i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol.

Ystyrir bod canolbwyntio twf yn unol â Chynllun Gofodol Cymru yn cyd-fynd â Pholisi Cynllunio Cymru o ran nodi'r lleoliadau mwyaf addas ar gyfer datblygu, gan mai yn yr aneddiadau mwyaf hyn y mae'r seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau fel arfer. Mae'r dull hwn hefyd yn ystyried y pum Egwyddor Cynllunio allweddol ac yn adlewyrchu casgliadau'r Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r Asesiad o'r Farchnad Fasnachol. Mae'r farchnad yn yr ardaloedd hyn hefyd yn fwy bywiog a deniadol i ddatblygwyr. Yn bwysig iawn, mae'r opsiwn hwn hefyd yn ystyried y cyfyngiadau a nodwyd yn yr ardaloedd trefol y tu hwnt i Gynllun Gofodol Cymru h.y. Abergele, Pensarn, Tywyn a Bae Cinmel.

Byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu yn yr aneddiadau gwledig i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored.

Ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei osod ar restr fer o opsiynau. Fodd bynnag, er bod Cynllun Gofodol Cymru yn berthnasol o hyd, mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cael ei lunio ar hyn o bryd. Er gwaethaf hyn, mae'r opsiwn a gynigir yn dal i hyrwyddo cynaliadwyedd ac felly mae'n bodloni'r Canlyniadau Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd

IE

Opsiwn 4: Twf trefol penodol yn unol â Chynllun Gofodol Cymru ac Aneddiadau Dibynnol

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 4 a 5 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn

Cyfeirio datblygiadau yn unol ag Aneddiadau Cynradd Allweddol ac Aneddiadau Allweddol Cynllun Gofodol Cymru, ynghyd ag Aneddiadau Dibynnol, gyda'r capasiti a'r seilwaith i gynnal datblygiad.

Yn yr ardaloedd gwledig y tu allan i'r Aneddiadau Dibynnol byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd.

Mae hwn yn debyg i Opsiwn 3, ond mae hefyd yn dosbarthu elfen o dwf i'r Aneddiadau Dibynnol. Nid yw'r opsiwn hwn yn dosbarthu twf i'r Aneddiadau Dibynnol i'r un graddau ag Opsiwn 1 (y CDLl cyfredol). Ystyrir felly ei fod yn cyd-fynd â Chynllun Gofodol Cymru a Pholisi Cynllunio Cymru o ran nodi'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygu, gan mai yn yr aneddiadau mwyaf hyn y mae'r seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau fel arfer. Mae'r dull hwn hefyd yn ystyried y pum Egwyddor Cynllunio allweddol ac yn adlewyrchu casgliadau'r Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r Asesiad o'r Farchnad Fasnachol.

Yn yr ardaloedd gwledig y tu allan i'r Aneddiadau Dibynnol byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth gyflwyno a darparu tai ar gyfer anghenion lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd.

Ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei osod ar restr fer o opsiynau.

IE

Opsiwn 5: Opsiwn a Arweinir gan Adfywio

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 1, 2 a 3 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn.

Byddai datblygiadau yn cael eu canolbwyntio ar yr aneddiadau hynny lle byddai datblygu yn dod â buddion adfywio (e.e. Bae Colwyn, Abergele, Pensarn, Tywyn, Bae Cinmel a Llanrwst)

Mae'r aneddiadau sydd arnynt angen eu hadfywio yn tueddu i berfformio'n is o ran yr ardal farchnad dai leol. Byddai hyfywedd cymharol is yn golygu ei fod yn anodd sicrhau amrediad llawn o rwymedigaethau cynllunio (addysg, tai fforddiadwy ac ati). Gellid peryglu'r gwaith o ddarparu tai yn gyffredinol oherwydd byddai goblygiadau i'r cyflenwad tir ar gyfer tai. Byddai canolbwyntio datblygiadau ar aneddiadau o'r fath hefyd yn gallu effeithio ar gapasiti seilwaith lleol, gwasanaethau a chyfleusterau. Er nad yw'r opsiwn hwn yn cael ei ystyried yn addas i'w gyflwyno fel opsiwn ffurfiol, byddai'n rhaid cynnwys elfennau o'r dull gweithredu hwn yn yr opsiwn a ffefrir er mwyn sicrhau bod rhywfaint o dwf yn digwydd mewn aneddiadau sydd arnynt angen eu hadfywio.

Ni ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei gynnwys ar restr fer o opsiynau.

NA (Er nad yw'r opsiwn hwn yn cael ei ystyried yn addas i'w gynnig fel opsiwn ffurfiol, byddai'n rhaid cynnwys elfennau o'r dull gweithredu hwn yn yr opsiwn a ffefrir er mwyn sicrhau bod rhywfaint o dwf yn digwydd mewn aneddiadau sydd arnynt angen eu hadfywio).

Opsiwn 6: Canolfannau a Choridorau

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 3, 4 a 5 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn

Byddai datblygiadau yn cael eu dosbarthu ar sail dehongliad caeth o ganolfannau a llwybrau trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd allweddol

Un o brif egwyddorion Polisi Cynllunio Cymru yw dosbarthu datblygiad yn gynaliadwy, yn seiliedig ar system drafnidiaeth gynaliadwy gyda phwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a dulliau trafnidiaeth cynaliadwy eraill. Mae gan y Sir rwydwaith ffyrdd strategol sef yr A55, Rheilffordd yr Arfordir, yr A470, yr A5, Rheilffordd Dyffryn Conwy.

Gallai'r coridorau hyn fod yn groes i swyddogaeth drafnidiaeth strategol llwybrau o'r fath y gellid eu peryglu drwy annog traffig a theithiau lleol.

Ar y cyfan, ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei gynnwys ar restr fer o opsiynau.

IE

Opsiwn 7: Gwasgaru

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 1 a 2 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn

Dosbarthu datblygiadau yn gyfartal i bob anheddiad ni waeth beth yw ei safle yn yr hierarchaeth aneddiadau neu ei sefyllfa o ran cynaliadwyedd

Byddai hyn, er enghraifft, yn arwain at ganran o dwf neu gwota a fyddai'n gymwys i bob anheddiad. Nid yw'r dull hwn yn rhoi fawr ddim ystyriaeth i sail yr hierarchaeth aneddiadau ac ni fyddai'n rhoi llawer o ystyriaeth i rôl neu gymeriad penodol pob anheddiad o ran cynaliadwyedd neu gyfyngiadau. Byddai hyn yn ddull 'cynllunio yn ôl rhifau' ac ni fyddai'n ddull gwybodus na chyfrifol. Ymhellach, pe byddai pob anheddiad yn tyfu ar yr un gyfradd yna byddai hyn yn fwy na'r gofyniad tai cyffredinol, o ystyried nifer yr aneddiadau yn y Sir.

Ni ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei gynnwys ar restr fer o opsiynau.

NA

Opsiwn 8: Dim strategaeth

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Ddim yn gymwys.

Byddai datblygiadau yn digwydd mewn lleoliadau pan fydd cynigion datblygu yn codi.

Mae'r dull 'heb ei gynllunio' hwn yn gwrthdaro â phwysigrwydd gweithredu gan ddilyn y Cynllun lle caiff twf ei ddosbarthu ar sail strategaeth glir Cynllun sydd yn seiliedig ar gynaliadwyedd. Byddai twf yn digwydd ar hap ac ar sail ad hoc a'r unig ffordd y gellid ei reoli byddai drwy gynnal asesiad ar sail rhinweddau penodol pob cynnig.

Ni ystyrir bod gan yr opsiwn hwn ddigon o rinweddau i gyfiawnhau ei gynnwys ar restr fer o opsiynau.

NA

Opsiwn 9: Anheddiad Newydd

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 1, 2 a 3 yr Hierarchaeth. Yn amodol ar leoliad yr anheddiad newydd bydd yr hierarchaeth aneddiadau a ffefrir yn cael ei newid i adlewyrchu'r anheddiad newydd. Bydd y dosbarthiad twf a ddewisir yn adlewyrchu'r hierarchaeth aneddiadau a ffefrir a ddewisir o'r opsiynau hyn.

Nodi anheddiad newydd ar sail coridor trafnidiaeth gynaliadwy, sy'n ystyried Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 9 a fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10. Sefydlu anheddiad newydd, un ai drwy greu anheddiad hollol 'newydd' neu ehangu anheddiad sydd eisoes yn bodoli yn anheddiad newydd.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynghori bod 'aneddiadau newydd ar safleoedd maes glas yn annhebygol o fod yn briodol yng Nghymru, ac ni ddylid ond eu cynnig lle y byddai datblygiad o'r fath yn arwain at fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol o'u cymharu ag adfywio'r aneddiadau presennol neu eu hehangu fwy fyth'. Ni ystyrir bod lefel y twf tebygol (ar ffurf dyraniadau newydd) yn ddigonol i wneud anheddiad newydd yn gynnig cynaliadwy gan fod angen tua 5,000 o anheddau er mwyn gwneud anheddiad newydd yn gynaliadwy. Ymhellach, mae'r amser y byddai ei angen i ddarparu anheddiad newydd, ynghyd â diffyg unrhyw ddyraniadau tai eraill yn y Cynllun, yn golygu y byddai'r ddarpariaeth dai ar ddechrau / canol cyfnod y Cynllun yn gyfyngedig iawn ac ni fyddai hyn o gymorth i fynd i'r afael â'r diffyg presennol yn y cyflenwad tir ar gyfer tai.

Mae fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) hefyd yn nodi:

Paragraff 2.61 Oherwydd eu natur strategol, dim ond fel rhan o CDLl ar y cyd, CDS neu'r FFDC dylid cynnig aneddiadau newydd neu estyniadau trefol mawr o 1,000 neu fwy o anheddau, a fydd yn effeithio ar fwy nag un awdurdod lleol.

Paragraff 2.62 Ni ddylid cynnig aneddiadau newydd oni bai bod datblygiad o'r fath yn cynnig manteision amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol o gymharu ag ehangu neu adfywio aneddiadau presennol a lle byddai'r gwaith o ddarparu nifer fawr o gartrefi yn cael ei gefnogi gan yr holl gyfleusterau, swyddi a gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl i greu Man Cynaliadwy. Mae angen iddynt fod yn hunangynhwysol ac nid yn drefi noswylio sy'n ymestyn tu hwnt i ardaloedd trefol mwy.

Er gwaethaf yr uchod, byddai'n dal yn bosibl bwrw ymlaen â'r opsiwn i gynnig estyniad sylweddol yn cynnwys llai nag 1,000 o unedau o bosibl. Felly, ystyrir bod yr opsiwn hwn yn haeddu cael ei gynnwys ar restr fer o opsiynau.

IE

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig