Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Cyflwyniad

1.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Y CDLlN yw cynllun defnydd tir y Cyngor a fydd yn pennu lleoliad a maint datblygiadau newydd yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod y cyfnod 2018 - 2033. Bydd hefyd yn nodi pa ardaloedd sydd angen eu gwarchod rhag datblygiad ac ar ôl iddo gael ei fabwysiadu bydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol presennol (CDLl 2007-2022).

1.2 Bydd y CDLlN yn cael ei lunio yn unol â'r Cytundeb Cyflenwi a fabwysiadwyd gan y Cyngor (CC, Ebrill 2018), sy'n nodi'r amserlen a'r dull gweithredu o safbwynt ymgynghori â'r gymuned. Y man cychwyn allweddol wrth gynnal yr arolwg yw'r CDLl presennol a fabwysiadwyd (2007 - 2022), yr Adroddiadau Monitro Blynyddol a'r Adroddiad Adolygu. Yr ymgynghoriad Materion ac Opsiynau Cyfranogiad Cyn adnau hwn yw cam cyntaf y broses o baratoi'r CDLlN ac mae'n cynnwys y dogfennau a ganlyn ar gyfer ymgynghori yn eu cylch:

  1. Papur Ymgynghori 1: Materion sy'n Flaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion
  2. Papur Ymgynghori 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol (y Papur hwn)
  3. Cyfres o Bapurau Testun:
  • Tai
  • Economi, Sgiliau a Chyflogaeth
  • Adwerthu a chanolfannau trefi
  • Twristiaeth
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Yr Amgylchedd Naturiol
  • Yr Amgylchedd Hanesyddol
  • Trafnidiaeth
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Mwynau a Gwastraff
  • Llesiant, Iechyd a Chydraddoldeb
  • Mannau Hamdden
  1. Adroddiad Cwmpasu'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol (GC / AAS).
  2. Papurau Cefndir Sylfaen Dystiolaeth (Cyfeiriwch at Atodiad 1 i weld y rhestr lawn). Mae'r holl bapurau cefndir sylfaen dystiolaeth wedi'u grwpio a'u crynhoi yn y papurau testun perthnasol uchod.

1.3 Ar y cam hwn yn y broses CDLlN, mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gyfranogiad a thrafodaethau gyda'r budd-ddeiliaid allweddol a nodwyd yng Nghytundeb Cyflenwi'r CDLlN. Nid oes gofyniad statudol i'r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cam hwn. Bydd hyn yn digwydd yng ngham nesaf y broses pan fyddwn yn ymgynghori ar Strategaeth a Ffefrir y CDLlN. Fodd bynnag, mae cynnal trafodaethau buan gyda'r budd-ddeiliaid allweddol yn hanfodol er mwyn adeiladu consensws. Dylid darllen y Papur hwn ar y cyd â Phapur Ymgynghori 1 a'r holl Bapurau Testun a Phapurau Cefndir cysylltiedig a nodwyd uchod. Nid yw pob un o'r Papurau Cefndir wedi'u cwblhau ar y cam cynnar hwn yn y broses o baratoi'r CDLlN. Wrth i'r Papurau Cefndir gael eu cwblhau bydd y Papurau Testun yn cael eu diweddaru o ran eu heffaith a pholisïau posibl y CDLlN.

1.4 Mae'r ddogfen hon, Papur Ymgynghori 2, yn nodi'r opsiynau ar gyfer lefel y datblygiadau tai a chyflogaeth y bydd yn rhaid i'r cynllun roi sylw iddynt. Mae hefyd yn cyflwyno opsiynau o ran lleoliad y datblygiadau hyn yn y dyfodol (dosbarthiad gofodol) a sut gall hyn fod o gymorth i fynd i'r afael â materion allweddol a nodwyd yn Adroddiad Cwmpasu'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol (GC / AAS). Rydym hefyd yn awyddus i gael eich barn chi am yr hierarchaeth aneddiadau.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig