Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019

Yr Opsiynau Dosbarthiad Gofodol ar gyfer Twf

6.1 Ochr yn ochr â phenderfynu ar lefel wirioneddol y twf sydd ei hangen dros gyfnod y Cynllun, rhaid i'r CDLlN hefyd gynnig Strategaeth Ofodol yn nodi lle dylid lleoli'r twf hwnnw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n angenrheidiol felly trosi'r lefel twf yn lleoliadau daearyddol eang. Mae'r Cyngor wedi nodi chwe Opsiwn Dosbarthiad Gofodol eang ar gyfer datblygiadau newydd yn y Fwrdeistref Sirol. Nod pob opsiwn yw gwneud y mwyaf o dir llwyd addas y mae modd ei ddefnyddio. Fodd bynnag, er mwyn darparu ar gyfer holl ofynion datblygu Conwy dros gyfnod y Cynllun bydd angen rhyddhau tir newydd hefyd i ddatblygu y tu hwnt i'r terfynau anheddiad presennol. Mae Conwy hefyd yn wynebu cyfyngiadau o ystyried ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd, topograffeg ac asedau naturiol a hanesyddol. Mae BP02 - Opsiynau Dosbarthiad Gofodol yn sail i'r adran hon o'r Papur.

Mae'n bwysig nodi nad diffinio ffiniau, safleoedd neu ddyraniadau tir yn fanwl gywir yw bwriad yr Opsiynau Dosbarthiad Gofodol ar gyfer Twf a gyflwynir ar y cam hwn. Bydd manylion o'r fath yn rhan o'r cam Strategaeth a Ffefrir yn ddiweddarach yn y broses yn unol â'r amserlen yng Nghytundeb Cyflenwi Conwy.

Mae'n hollbwysig bod ardaloedd datblygu newydd yn cael eu gwasanaethu, neu fod modd eu gwasanaethu, gan seilwaith priodol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, llwybrau trafnidiaeth a gwasanaethau priodol, darpariaeth addysg, cyfleusterau cymunedol, cyfleustodau a seilwaith draenio. Bydd y tebygolrwydd o ddarparu seilwaith newydd ar y cyd â datblygiadau yn dibynnu ar nifer o ffactorau, nid y lleiaf o'r rhain fydd cyfleoedd tebygol i ariannu'r gwaith o ddarparu'r datblygiad. Rhaid i'r ystyriaeth o gyfleoedd ariannu ar gyfer seilwaith newydd, amodau economaidd ac amodau'r farchnad yn yr ardal fod yn greiddiol i'r broses asesu a bydd yn dylanwadu ar y Strategaeth a Ffefrir. Felly, mae'n bwysig bod pwyslais ar nodi opsiynau realistig sy'n adlewyrchu'r dystiolaeth. Nid yw'r holl dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd, ond wrth iddi gael ei pharatoi bydd yn sail i lunio'r Strategaeth a Ffefrir derfynol yn ystod yr haf 2019.

Fel y nodwyd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, y prif amcan yw nodi set o opsiynau gofodol realistig. Yn y cyd-destun hwn byddai'n amhriodol ac yn ddryslyd o bosibl, i ddefnyddwyr y Cynllun ymgynghori ar ormod o wahanol opsiynau gofodol. Yn hytrach, cynhaliwyd asesiad cychwynnol o 'restr hir' o opsiynau posibl (cyfeiriwch at Atodiad 3), sydd wedi arwain at lunio 'rhestr fer' o 5 opsiwn a gyflwynir isod i'w hasesu ymhellach.

Er y gofynnir yn bennaf am sylwadau ar y rhestr fer o opsiynau gofodol, nid yw hyn yn golygu na ellir cyflwyno sylwadau ar unrhyw un o'r opsiynau gofodol eraill yn y 'rhestr hir' nac ychwaith, unrhyw opsiynau gofodol eraill a awgrymir.

Tabl 3: Opsiynau Dosbarthiad Gofodol - Opsiynau ar y Rhestr Fer

Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Ar y Rhestr Fer

Opsiwn 1: Ailadrodd y CDLl a fabwysiadwyd (Dosbarthiad Cynaliadwy)

YDY (Opsiwn 1)

Opsiwn 2: Dosbarthu Twf i'r holl ganolfannau trefol ar hyd Coridor yr A55

YDY (Opsiwn 2)

Opsiwn 3: Twf trefol penodol yn unol â Chynllun Gofodol Cymru.

YDY (Opsiwn 3)

Opsiwn 4: Twf trefol penodol yn unol â Chynllun Gofodol Cymru ac o fewn Aneddiadau Dibynnol

YDY (Opsiwn 4)

Opsiwn 5: Twf a arweinir gan Adfywio

NAC YDY (Er nad yw'n cael ei ystyried yn briodol i fwrw ymlaen ag ef fel opsiwn ffurfiol, byddai'n rhaid cynnwys elfennau o'r dewis hwn yn yr opsiwn a ffefrir er mwyn sicrhau bod rhywfaint o dwf mewn aneddiadau sydd angen eu hadfywio)

Opsiwn 6: Canolfannau a Choridorau

YDY (Opsiwn 5)

Opsiwn 7: Gwasgaru

NAC YDY

Opsiwn 8: Dim strategaeth

NAC YDY

Opsiwn 9: Anheddiad Newydd /Estyniad Mawr i Anheddiad Presennol

YDY (Opsiwn 6)

Asesir yr opsiynau mwy realistig yn fwy manwl a nodir pa aneddiadau sy'n perthyn i opsiwn penodol. Rhoddir crynodeb o brif fanteision ac anfanteision pob opsiwn hefyd, ynghyd â darlun gofodol o'r opsiwn ar ffurf map. Mae'r ystyriaethau allweddol yr ymdrinnir â nhw yn y manteision ac anfanteision yn cynnwys y meini prawf a ganlyn, sydd hefyd wedi'u cynnwys yn fwy manwl yn BP02 - Opsiynau Dosbarthiad Gofodol:

  • Ystyriaeth o Bum Egwyddor Cynllunio Allweddol Llywodraeth Cymru.
  • Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lle sy'n adlewyrchu Lle Cynaliadwy (Gweler Atodiad 2) - a fydd yn arwain at leoedd cynaliadwy yng Nghonwy?
  • Ystyriaeth o 'Bum Ffordd o Weithio' Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Deddfwriaeth a Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o'r cyfraniad i ddeddfwriaeth a strategaethau ehangach, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Bargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.
  • Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchnad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
  • Hyrwyddo Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd
  • Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg
  • Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu
  • Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol allweddol
  • Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)
  • Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir.
  • Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth
  • Gwasanaethau a Chyfleusterau - sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau ar gael neu fod modd eu darparu drwy'r CDLlN
  • Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
  • Cydymffurfiaeth â Pholisi Cynllunio Cymru - sicrhau cydymffurfiaeth ag egwyddorion Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 9 a rhoi ystyriaeth i fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10.
  • Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad
  • Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlN - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach fel sail ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir)
  • Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Opsiwn 1: Ailadrodd y CDLl mabwysiedig

Disgrifiad: Parhau â'r CDLl mabwysiedig sy'n caniatáu ar gyfer dosbarthiad cymesur o ddatblygiad ar sail egwyddorion cynaliadwyedd ar draws tair haen yr hierarchaeth aneddiadau sydd wedi'i mabwysiadu ar hyn o bryd (Ardaloedd Trefol ac Aneddiadau Haen 1 a 2). Yn yr aneddiadau gwledig y tu allan i'r Aneddiadau Trefol ac Aneddiadau Haen 1 a 2, byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddilyn er mwyn gwarchod cymeriad lleol a chyflenwi datblygiadau tai lleol.

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir Arnynt

Aneddiadau Trefol: Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel

Aneddiadau Gwledig: Llanddulas, Dwygyfylchi*, Llysfaen, Glan Conwy, Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont*/Castell, Trefriw*

Opsiwn(Opsiynau) Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Dylid ystyried yr opsiwn Dosbarthiad Twf yn erbyn Opsiynau Hierarchaeth Aneddiadau 1 a 2. Os dewisir y dosbarthiad twf hwn mae'n debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hierarchaeth aneddiadau hyn.

Deddfwriaeth allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Mae'r CDLl cyfredol a'r hierarchaeth aneddiadau dibynnol yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd, gan gynnwys poblogaeth a'r anghenion am dai fforddiadwy. Mae'r strategaeth yn tueddu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth allweddol. Fodd bynnag, cyfyngwyd ar ddatblygiadau yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol ac o fewn yr aneddiadau dros gyfnod y CDLl hyd yma, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau newydd sy'n codi, anghenion y gymuned sy'n newid ac amodau'r farchnad. Gan hynny, mae'n rhaid cwestiynu Egwyddor Cynllunio Allweddol 'y math iawn o ddatblygiad yn y lle iawn', oherwydd byddai angen ailasesu rhai lleoliadau trefol a gwledig o ran darparu twf a chreu mannau cynaliadwy yn y dyfodol.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Mae BP18 - Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy (2018 - 2033) yn ystyried effaith bosibl y Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol i gwblhau'r gofynion tir. Mae'r asesiad o'r farchnad eiddo hefyd yn ystyried lleoliadau allweddol ar hyd Coridor yr A55 fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer twf cyflogaeth newydd. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, cyfyngir ar leoliad rhai dyraniadau tir cyflogaeth ar draws yr hierarchaeth mewn rhai ardaloedd gwledig ac yn nwyrain y Sir. Ynghyd â'r ffaith bod canllawiau cenedlaethol yn ceisio lleoli tai a chyflogaeth yn agos at ei gilydd er mwyn annog cynaliadwyedd, efallai nad strategaeth y CDLl cyfredol yw'r dull gorau o gyflenwi strategaethau ehangach fel y Fargen Dwf a Strategaeth Economaidd Conwy.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchnad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Gan fod y CDLl cyfredol yn seiliedig ar gynaliadwyedd ac anghenion y gymuned bydd yn darparu gofynion tir penodol ar gyfer pob anheddiad ar sail y dystiolaeth. Fodd bynnag, mae tir yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig ac i'r dwyrain, ac felly mae'n bosibl y byddai polisi mwy hyblyg yn fwy addas yn y lleoliadau hyn neu ganolbwyntio dyraniadau datblygu ar y lleoliadau sy'n cael eu gyrru fwy gan y farchnad lle mae capasiti a seilwaith i ddarparu twf. Byddai hyn yn amodol ar ddealltwriaeth bellach o sylfaen dystiolaeth y cyfyngiadau, fel BP35 - Perygl Llifogydd a Chyfleoedd Datblygu yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol.

Hyrwyddo Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Mae'r rhan fwyaf o dwf y CDLl (85%) wedi'i ddosbarthu ar draws yr ardaloedd trefol ac mae 15% yn yr aneddiadau gwledig. Bydd y twf arfaethedig yn yr ardaloedd trefol yn annog ffyrdd o fyw iach ac actif gyda mynediad da at ddulliau eraill o deithio, mannau agored, ac ati. Fodd bynnag, mae angen i'r CDLlN asesu lleoliadau datblygu ar sail y Cynlluniau Teithio Llesol newydd i sicrhau bod gwell cysylltiadau a llwybrau yn cael eu hannog a'u darparu. Mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth a hamdden yn rhai o'r lleoliadau gwledig, a gallai hyn yn ei dro annog defnydd anghynaliadwy o geir wrth deithio i'r lleoliadau mwy cynaliadwy.

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Gall y dosbarthiad twf presennol effeithio ar allu Abergele a rhai cymunedau gwledig i gynnal twf heb gael effaith andwyol ar y Gymraeg. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar y Gymraeg a mesurau lliniarol posibl.

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Trwy ddosbarthu datblygiadau mewn ffordd oleuedig o ran cynaliadwyedd pob anheddiad a'r hierarchaeth aneddiadau yna dylai'r opsiwn hwn ystyried y seilwaith sydd ar gael a'i gapasiti. Fodd bynnag, mae'r dosbarthiad cyfrannol yn rhoi'r argraff y bydd yn rhaid i bob anheddiad, neu'r rhan fwyaf o aneddiadau, dyfu neu gael dyraniad, a gallai hyn arwain at wasgaru twf yn rhy denau a bod llai o bwyslais ar gynaliadwyedd. Mae'r dosbarthiad twf presennol yn annhebygol o fod yn hyfyw ac ni fydd yn bosibl ei ddarparu mewn rhai lleoliadau trefol a gwledig oherwydd cyfyngiadau seilwaith nad oes modd eu goresgyn. Er bod rhagor o waith yn mynd rhagddo i asesu hyn, mae datblygiadau yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol, er enghraifft, yn hyrwyddo 20% o'r twf dros gyfnod y CDLl. Ar hyn o bryd, oherwydd capasiti traffig a materion yn ymwneud â pherygl llifogydd mae'n bosibl na fydd yn bosibl darparu hyn yn ystod cyfnod y CDLlN heb gyfraniadau ariannol sylweddol, a fyddai yn eu tro yn cael rhagor o effaith ar hyfywedd cynlluniau.

Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol

Trwy wasgaru twf ar sail dosbarthiad cyfrannol, rhoddir yr argraff y bydd twf neu ddyraniad ym mhob anheddiad. Gallai hyn arwain at weithredu heb ffocws pendant lle na fyddai cyfyngiadau yn cael eu hystyried yn llawn, neu mewn rhai amgylchiadau, byddent yn cael eu peryglu. Gall fod yn fwy cynaliadwy i ganolbwyntio twf a sicrhau bod modd goresgyn cyfyngiadau a seilwaith. Mae cyfyngiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghonwy. Ar hyd llain arfordirol yr A55 mae problemau topograffigol i'r de a chyfyngiadau yn ymwneud â pherygl llifogydd i'r gogledd, gan adael llain o gyfleoedd datblygu ar hyd yr A55. Mae ardal ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol yn wynebu perygl llifogydd ar hyn o bryd, a byddai'n rhaid ymchwilio ymhellach i hyn i bennu'r potensial ar gyfer dosbarthu twf yn y CDLlN.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Dylai'r opsiwn olygu bod modd ystyried yr ymrwymiadau presennol yn nhermau asesiad cadarn o'r tebygolrwydd o'u cwblhau yn y dyfodol. Bydd ymrwymiadau yn cael eu hystyried dros gyfnod paratoi'r CDLlN o ran cyflenwad ac amodau'r farchnad. Mae ardaloedd posibl mewn perygl o dan strategaeth dwf y CDLl cyfredol, gan gynnwys Abergele a Chyffordd Llandudno, lle darparwyd datblygiadau mawr ac felly mae'n bosibl y bydd llai o gyfle iddynt gynnal twf heb ddatblygiadau mawr i'r seilwaith. Ystyrir hyn ymhellach wrth asesu safleoedd ymgeisiol.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Dylai'r opsiwn fod yn ddigon hyblyg i ystyried lleoliad safleoedd ymgeisiol ac a ydynt wedi pasio'r asesiad 'technegol' ai peidio. Fodd bynnag, mae'n bosibl bydd yr aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy yn cael eu hesgeuluso yn yr ymgais i wasgaru twf ar draws pob haen yn yr hierarchaeth aneddiadau. Ar y cam hwn mae'r gwaith o baratoi a gwerthuso safleoedd ymgeisiol y CDLlN yn mynd rhagddo a bydd yn sail i'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Mae'r opsiwn yn seiliedig ar y dosbarthiad aneddiadau a ddewiswyd ac mae'n ystyried yr archwiliadau o'r aneddiadau ac felly mae'n seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd, a fydd yn cynnwys hygyrchedd. Os yw cyfanswm y twf hwnnw yn seiliedig yn gyffredinol ar yr hierarchaeth aneddiadau, yna bydd y ddarpariaeth fwyaf o wasanaethau a chyfleusterau, a hefyd trafnidiaeth gyhoeddus, yn yr aneddiadau yn yr haenau uchaf. Mae mwyafrif twf y CDLl (85%) wedi'i ddosbarthu yn yr ardaloedd trefol, lle ystyrir bod mynediad da iawn at gyfleusterau a gwasanaethau allweddol. Fodd bynnag, bydd angen ymchwilio ymhellach i'r mynediad at addysg ac iechyd o dan yr opsiwn hwn i bennu'r dosbarthiad twf priodol ar gyfer y dyfodol.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Trwy ddosbarthu twf yn gyfrannol ar draws yr hierarchaeth aneddiadau mae'n bosibl na fydd yr opsiwn hwn yn rhoi ystyriaeth lawn i gryfder y farchnad dai leol o ran y goblygiadau i'r math o ddyraniad a rhwymedigaethau cynllunio y gellid eu darparu mewn ffordd hyfyw.

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Mae'r opsiwn yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer amgylchiadau annisgwyl fel Archwilydd yn nodi'r angen am fwy o ddyraniadau yn ystod archwiliad. Bydd y Cyngor yn ystyried polisïau dad-ddyrannu, dileu risg a graddio safleoedd datblygu er mwyn bod o gymorth i'w darparu.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Gall rhywfaint o'r dystiolaeth allweddol sy'n dod i'r amlwg awgrymu bod dull gweithredu mwy holistaidd a phenodol at gyflogaeth a thwf tai yn cael ei hybu lle mae digon o gapasiti, seilwaith ac amodau marchnad ffafriol. Fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy i ddarparu uchelgeisiau twf y CDLl cyfredol, mae'r opsiwn hwn yn ceisio gwasgaru twf yn denau drwy weithredu ar sail cynllunio yn ôl rhifau, a allai gael effaith ar oresgyn cyfyngiadau a darparu'r seilwaith angenrheidiol.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys y mecanwaith angenrheidiol i hyrwyddo tir llwyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd dileu risgiau mewn rhai ardaloedd oherwydd costau seilwaith uchel a chyfyngiadau.

Opsiwn 1 - Crynodeb
Mae'r opsiwn hwn wedi bod yn ei le ers mabwysiadu'r CDLl cyfredol yn 2013 ac mae'n seiliedig ar hierarchaeth aneddiadau 5 haen ar sail asesiad cynaliadwyedd. Fodd bynnag, mae angen rhyw fath o ddull rhifyddol ar yr opsiwn gofodol hwn er mwyn dosrannu twf i haenau gwahanol yr hierarchaeth aneddiadau. Awgryma hyn y bydd twf yn cael ei wasgaru'n denau, lle bydd safleoedd yn cael eu dewis ar sail rhyw fath o reolaeth rifyddol yn hytrach na thrwy ganolbwyntio ar yr aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy i gynnal twf. Gall yr opsiwn gael effaith negyddol hefyd ar gyflenwi'r seilwaith gofynnol a helpu i ddileu risgiau'r Cynllun oherwydd arbedion maint.

map%206

Opsiwn 2: Dosbarthu Twf i'r holl ganolfannau trefol ar hyd Coridor yr A55

Disgrifiad: Cyfeirio pob datblygiad i'r holl ganolfannau trefol ar hyd Coridor yr A55 gyda'r capasiti a'r seilwaith i gynnal datblygiadau. O dan yr opsiwn hwn ni fyddai dim dyraniadau gwledig ar gyfer datblygu. Neu, yn yr aneddiadau gwledig, byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu i sicrhau y mabwysiedir dull mwy hyblyg wrth gyflwyno a diwallu anghenion tai lleol gan warchod y cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd.

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel.

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Mae'r opsiwn twf yn fwy addas i opsiynau 1, 2 a 3 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Er y gellir ei ystyried yn erbyn yr holl ardaloedd trefol a nodwyd yn Opsiynau 1, 2, 3, 4 a 5 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir y dosbarthiad twf hwn bydd yn adlewyrchu un o'r opsiynau hyn yn yr hierarchaeth aneddiadau.

Deddfwriaeth allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Mae'r opsiwn yn tueddu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth allweddol cyn belled bod y polisi gwledig hyblyg yn addas i greu lleoedd cynaliadwy. Fel yn achos Opsiwn 1 uchod, mae cyfyngiadau ar ddatblygu yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau presennol, cyfyngiadau sy'n codi o'r newydd, anghenion y gymuned sy'n newid ac amodau'r farchnad. Gan hynny, mae'n rhaid cwestiynu Egwyddor Cynllunio Allweddol 'y math iawn o ddatblygiad yn y lle iawn', oherwydd byddai angen ailasesu rhai lleoliadau trefol a gwledig o ran darparu twf a chreu mannau cynaliadwy yn y dyfodol.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Mae BP18 - Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy (2018 - 2033) yn ystyried effaith bosibl y Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol i gwblhau'r gofynion tir. Mae'r asesiad o'r farchnad eiddo hefyd yn ystyried lleoliadau allweddol ar hyd Coridor yr A55 fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer twf cyflogaeth newydd. Byddai'r opsiwn felly yn bodloni strategaethau ehangach, yn amodol ar gapasiti yr aneddiadau a'u gallu i ddarparu'r twf. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, cyfyngir ar leoliad rhai dyraniadau tir cyflogaeth ar draws yr hierarchaeth mewn rhai ardaloedd gwledig ac yn nwyrain y Sir. Ynghyd â'r ffaith bod canllawiau cenedlaethol yn ceisio lleoli tai a chyflogaeth yn agos at ei gilydd er mwyn annog cynaliadwyedd, efallai nad strategaeth y CDLl cyfredol yw'r dull gorau o gyflenwi strategaethau ehangach fel y Fargen Dwf a Strategaeth Economaidd Conwy mewn ardaloedd fel dwyrain y Fwrdeistref Sirol.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio twf ar yr ardaloedd trefol yn unig o fewn yr hierarchaeth aneddiadau, sy'n tueddu i fod y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i gynnal twf a bodloni tystiolaeth fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth. Fodd bynnag, mae aneddiadau cynaliadwy yn is i lawr yr hierarchaeth aneddiadau sydd yn lleoliadau cynaliadwy ac eto byddent yn cael eu hamddifadu o dwf yn yr opsiwn hwn. At hynny, gall cyfyngiadau mewn rhai lleoliadau trefol fod yn rhwystr, a byddai'r rhain yn eu tro yn rhoi mwy o bwysau ar yr ardaloedd trefol sy'n weddill i gynnal twf.

Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Bydd twf sy'n canolbwyntio ar yr ardaloedd trefol yn annog ffyrdd o fyw iach ac actif gyda mynediad da at ddulliau eraill o deithio, mannau agored, ac ati. Fodd bynnag, mae angen i'r CDLlN asesu lleoliadau datblygu ar sail y Cynlluniau Teithio Llesol newydd i sicrhau bod gwell cysylltiadau a llwybrau yn cael eu hannog a'u darparu. Mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth a hamdden yn rhai o'r lleoliadau gwledig, a gallai hyn yn ei dro annog defnydd anghynaliadwy o geir wrth i bobl deithio i'r lleoliadau mwy cynaliadwy.

Fodd bynnag, drwy ganolbwyntio ar yr aneddiadau yn yr haenau uchaf nid yw hyn yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith y bydd rhai aneddiadau yn haenau is yr hierarchaeth aneddiadau yn hygyrch a bydd ganddynt gapasiti i gynnal rhywfaint o dwf. Fel y nodwyd uchod, gallai hyn gael ei reoli drwy fabwysiadu polisi gwledig sydd wedi'i fireinio er mwyn creu a darparu twf i annog ffyrdd o fyw iach ac actif.

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Gall y dosbarthiad twf presennol effeithio ar allu Abergele i gynnal twf heb gael effaith andwyol ar y Gymraeg. Gall yr opsiwn hwn gael effaith hefyd ar ardaloedd trefol eraill oherwydd bod datblygiadau yn cael eu canolbwyntio ar yr aneddiadau sy'n weddill lle mae capasiti ar gael. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar y Gymraeg a mesurau lliniaru posibl.

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Trwy ganolbwyntio twf o fewn yr ardaloedd trefol yn unig, mae'r opsiwn hwn yn cynnig llai o gyfle a hyblygrwydd i roi ystyriaeth i gapasiti'r seilwaith a faint o seilwaith sydd ar gael. Byddai rhai aneddiadau o dan bwysau i ddarparu datblygiadau, ond gall fod yno broblemau sylweddol o ran capasiti'r seilwaith a chyfyngiadau e.e. efallai na fydd modd datblygu yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol oherwydd capasiti'r traffig a materion yn ymwneud â pherygl llifogydd dros gyfnod y CDLlN heb gyfraniadau ariannol sylweddol, a fyddai yn eu tro yn cael rhagor o effaith ar hyfywedd cynlluniau.

Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol

Trwy ganolbwyntio twf ar hyd coridor trefol yr A55, gall fod anawsterau ynghlwm â hyn o ran cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol allweddol. Gallai hyn beryglu hyblygrwydd o ganlyniad i gyfyngiadau penodol mewn rhai aneddiadau na ellir eu goresgyn a gall hyn roi pwysau gormodol ar aneddiadau eraill. Byddai aneddiadau cynaliadwy lle nad oes llawer o gyfyngiadau y tu allan i haenau uwch yr hierarchaeth yn cael eu hatal rhag cyfrannu at y twf. Gall fod yn fwy cynaliadwy i ganolbwyntio ar dwf mwy penodol a sicrhau bod modd goresgyn problemau yn ymwneud â chyfyngiadau a seilwaith. Mae cyfyngiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghonwy. Ar hyd llain arfordirol yr A55 mae problemau topograffyddol i'r de a chyfyngiadau yn ymwneud â pherygl llifogydd i'r gogledd, gan adael llain o gyfleoedd datblygu ar hyd yr A55. Mae ardal ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol yn wynebu perygl llifogydd ar hyn o bryd, a byddai'n rhaid ymchwilio ymhellach i hyn i bennu'r potensial ar gyfer dosbarthu twf yn y CDLlN.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Er bod cyfran sylweddol o ddatblygiadau ac ymrwymiadau a gwblhawyd yn ddiweddar yn yr ardaloedd trefol ar hyd Coridor yr A55, mae rhai y tu allan i aneddiadau'r haenau uchaf. Mae'r opsiwn hwn, drwy ganolbwyntio ar nifer o aneddiadau, yn anwybyddu'r rhan bosibl y gall aneddiadau cynaliadwy Haen 1 a Haen 2 ei chwarae wrth gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Dylai'r opsiwn fod yn ddigon hyblyg o ran lleoliad safleoedd ymgeisiol ac a ydynt wedi pasio'r gwerthusiad datblygu ar y cam blaen-lwytho. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd yr aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy yn cael eu diystyru yn yr ymgais i wasgaru twf ar draws yr ardaloedd trefol yn unig, a gall hyn yn ei dro hefyd gael effaith negyddol ar gynaliadwyedd rhai aneddiadau Haen 1 a 2. Ar y cam hwn yn y gwaith o baratoi'r CDLlN, mae safleoedd ymgeisiol yn dal i gael eu hystyried a'u gwerthuso a bydd hyn yn sail i'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar y dosbarthiad aneddiadau a ddewiswyd ac mae'n ystyried yr archwiliadau o'r aneddiadau ac mae'n seiliedig felly ar egwyddorion cynaliadwyedd, sy'n cynnwys hygyrchedd. Os bydd y twf cyffredinol yn canolbwyntio ar yr ardaloedd trefol, yr aneddiadau hynny yn yr haenau uchaf sydd â'r ddarpariaeth fwyaf o wasanaethau a chyfleusterau a hefyd trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, bydd angen ymchwilio ymhellach i'r mynediad at addysg ac iechyd er mwyn deall materion yn ymwneud â chapasiti presennol a'r effaith ar dwf a materion hyfywedd cyffredinol. Mae diffyg datblygu mewn rhai ardaloedd trefol yn debygol o roi pwysau ar yr ardaloedd trefol lle gellir darparu twf, ac felly ar y cyfleusterau a'r gwasanaethau y bydd eu hangen.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Trwy ddosbarthu twf yn gyfrannol ar draws yr aneddiadau trefol mae'n bosibl na fydd yr opsiwn hwn yn rhoi ystyriaeth lawn i gryfder y farchnad dai leol o ran y goblygiadau i'r math o ddyraniad a rhwymedigaethau cynllunio y gellid eu darparu mewn ffordd hyfyw. Bydd yr Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy (BP10) yn sylfaen ychwanegol i lywio'r dosbarthiad twf yn y Strategaeth a Ffefrir

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Trwy ystyried aneddiadau trefol ar hyd Coridor yr A55 yn unig, mae'n bosibl na fydd yr opsiwn hwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll newidiadau e.e. Arolygydd yn gofyn am dwf/safleoedd ychwanegol. Bydd y Cyngor yn ystyried polisïau dad-ddyrannu, dileu risgiau a graddio safleoedd datblygu er mwyn bod o gymorth i ddarparu hyn os penderfynir bwrw ymlaen â'r opsiwn hwn, ond gall safleoedd fod yn brin heb ystyried aneddiadau Haen 1, er enghraifft.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Mae canolbwyntio twf ar yr aneddiadau trefol yn dderbyniol iawn o ran bodloni'r dystiolaeth a'r ddeddfwriaeth, oherwydd bydd yr aneddiadau hyn yn gallu darparu cyflogaeth a byddant ar y cyfan yn agos at y prif ganolfannau cyflogaeth. Fodd bynnag, mae'r opsiwn yn rhoi llawer o bwysau ar yr angen trefol yn hytrach nag ar anghenion yr ardaloedd gwledig a'r economi wledig. Fodd bynnag, fel yr opsiwn uchod, gellid rhoi sylw i hyn drwy fabwysiadu polisi gwledig mwy hyblyg. Gall rhywfaint o'r dystiolaeth allweddol sy'n dod i'r amlwg awgrymu y dylid hyrwyddo dull mwy holistaidd sy'n canolbwyntio mwy ar gyflogaeth a thwf tai lle mae digon o gapasiti, seilwaith ac amodau marchnad ffafriol.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys y mecanwaith angenrheidiol i hyrwyddo tir llwyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd dileu risgiau mewn rhai ardaloedd oherwydd costau seilwaith uchel a chyfyngiadau.

Opsiwn 2: Crynodeb
Bydd yr opsiwn hwn yn sicrhau bod datblygiad yn cael ei ganolbwyntio ar y lleoliadau mwyaf cynaliadwy yn yr ardaloedd trefol yn unig yn yr hierarchaeth aneddiadau. Gall yr opsiwn hwn fod yn anodd ei gyflawni o ystyried y cyfyngiadau mawr yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol (e.e. llifogydd, priffyrdd). Bydd yr opsiwn hwn yn sicrhau bod datblygiad yn canolbwyntio ar y lleoliadau mwyaf cynaliadwy drwy ganolbwyntio twf yn yr ardaloedd trefol yn unig yn yr hierarchaeth aneddiadau, ond bydd aneddiadau trefol a gwledig cynaliadwy eraill yn cael eu hamddifadu o dwf o dan yr opsiwn hwn.

map%207

Opsiwn 3: Twf trefol penodol yn unol â Chynllun Gofodol Cymru.

Disgrifiad: Byddai datblygiad yn canolbwyntio'n benodol drwy gyfeirio'r holl ddatblygiad ar sail diffiniad cadarn o'r ardaloedd twf a nodir yn Aneddiadau Allweddol Cynradd ac Aneddiadau Allweddol Cynllun Gofodol Cymru, lle mae capasiti a seilwaith i gynnal datblygiad. Yn yr aneddiadau trefol a gwledig sy'n weddill byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei fabwysiadu er mwyn hybu adfywiad mewn ardaloedd trefol a sicrhau bod dull mwy hyblyg yn cael ei roi ar waith i gyflwyno a darparu anghenion tai lleol mewn ardaloedd gwledig.

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar dynnu ffin ar fap sydd yn seiliedig ar yr ardaloedd twf yng Nghynllun Gofodol Cymru. Byddai'n cynnwys yr aneddiadau a ganlyn:

Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Conwy, Cyffordd Llandudno, Llandudno (gan gynnwys Deganwy a Llanrhos), Llanfairfechan a Phenmaenmawr a Llanrwst

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas i Opsiynau 4 a 5 yr Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn. Mae'r rhan fwyaf o Ardal Cynllun Conwy yn Ardal Strategaeth Gogledd Ddwyrain Cynllun Gofodol Cymru (2008). At hynny, mae sawl anheddiad un ai yn gyfan gwbl yn ardal y Gogledd Orllewin fel Llanfairfechan a Phenmaenmawr, neu maent yn yr ardal a rennir rhwng y ddau ranbarth (Llandudno, Conwy, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn a Llanrwst). Golyga hyn fod yr aneddiadau trawsffiniol hyn mewn lleoliad strategol pwysig i gysylltu'r ddwy ardal yng Nghymru a thu hwnt; trwy gysylltiadau â Lloegr ac Iwerddon. Mae Llanrwst hefyd yn cysylltu â thrydedd Ardal Strategol, sef Canolbarth Cymru.

Deddfwriaeth allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Ar yr wyneb, mae strategaeth sy'n ceisio canolbwyntio twf ar ardal dwf benodol yn ymddangos yn gynaliadwy, yn enwedig o ystyried mynediad at gyfleusterau allweddol, gwasanaethau a rhwydweithiau trafnidiaeth. Fodd bynnag, gall effeithio ar ardaloedd y Sir sydd y tu allan i'r ardal dwf gan na fydd cyfle i gyflenwi datblygiad cynaliadwy i fodloni anghenion yr aneddiadau hynny, heb fabwysiadu polisi manwl ar gyfer yr aneddiadau trefol a gwledig sy'n weddill.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Mae BP18 - Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy (2018 - 2033) yn ystyried effaith bosibl y Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol i gwblhau'r gofynion tir. Mae'r asesiad o'r farchnad fasnachol hefyd yn ystyried lleoliadau allweddol ar hyd Coridor yr A55 fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer twf cyflogaeth newydd. Byddai'r opsiwn felly yn bodloni strategaethau ehangach a byddai'n canolbwyntio datblygiad i ffwrdd o'r ardaloedd lle ceir cyfyngiadau yn nwyrain y sir. Byddai'r opsiwn hwn hefyd yn gwneud y mwyaf o botensial y 'canolbwynt' twf ar hyd yr arfordir yn unol â Chynllun Gofodol Cymru.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio twf ar ardaloedd trefol Cynllun Gofodol Cymru, sy'n tueddu i fod y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i gynnal twf a bodloni tystiolaeth o'r fath. Fodd bynnag, mae aneddiadau cynaliadwy yn is i lawr yr hierarchaeth aneddiadau sydd yn lleoliadau cynaliadwy ac eto byddent yn cael eu hamddifadu o dwf yn yr opsiwn hwn. At hynny, gall cyfyngiadau mewn rhai lleoliadau trefol fod yn rhwystr, a byddai'r rhain yn eu tro yn rhoi mwy o bwysau ar yr ardaloedd trefol sy'n weddill i gynnal twf.

Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Bydd twf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd Cynllun Gofodol Cymru yn annog ffyrdd o fyw iach ac actif, gan gynnig mynediad da at ddulliau eraill o drafnidiaeth, mannau agored, ac ati. Trwy ganolbwyntio ar aneddiadau haen uchaf Cynllun Gofodol Cymru yn unig, ni fydd hyn yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith bod rhai aneddiadau hygyrch yn haenau is yr hierarchaeth aneddiadau sydd â'r capasiti i gynnal rhywfaint o dwf a'r potensial i wella iechyd a gweithgarwch yn gyffredinol.

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Gall yr opsiwn dosbarthiad twf effeithio ar yr Aneddiadau Allweddol fel Penmaenmawr a Llanfairfechan o ran eu gallu i gynnal twf heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar y Gymraeg a mesurau lliniarol posibl.

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Trwy ganolbwyntio twf ar un rhan o'r Sir yn unig, gall y dull hwn o ganolbwyntio ar un ardal ddaearyddol roi pwysau gormodol ar seilwaith yn enwedig yn yr aneddiadau allweddol hynny. Ar y llaw arall, mae'n bosibl y bydd canolbwyntio twf o gymorth i gostau seilwaith a'r gallu i gyflenwi yn gyffredinol.

Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol

Trwy ganolbwyntio twf ar ardal benodol o'r Sir yn unig, gallai'r opsiwn hwn osod pwysau gormodol ar bob math o gyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol mewn rhai aneddiadau ac o'u hamgylch. Byddai aneddiadau cynaliadwy lle nad oes llawer o gyfyngiadau y tu allan i haenau uchaf Cynllun Gofodol Cymru yn cael eu hatal rhag cyfrannu at y twf. Gall fod yn fwy cynaliadwy i ganolbwyntio ar dwf mwy penodol na Chynllun Gofodol Cymru a sicrhau bod modd goresgyn problemau ynghylch cyfyngiadau a seilwaith.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Mae cyfran mawr o ymrwymiadau y tu allan i aneddiadau'r haenau uchaf, y mae'r rhan fwyaf o'r rhain y tu hwnt i ardal Cynllun Gofodol Cymru, er bod rhai ohonynt heb eu datblygu. Hefyd, mae rhai o'r ymrwymiadau presennol y tu hwnt i'r parth twf a ddiffiniwyd, fel Abergele. Trwy ganolbwyntio ar yr ardal dwf yn unig mae rôl aneddiadau cynaliadwy eraill y tu hwnt i'r ardal hon yn cael ei diystyrru. Mae'r opsiwn hwn yn anwybyddu'r rhan y gallai'r aneddiadau gwledig cynaliadwy ei chwarae wrth gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Bydd nifer o safleoedd ymgeisiol strategol y tu hwnt i'r parth twf a ddiffinnir. Ni fyddai'n bosibl ystyried safleoedd ymgeisiol mewn aneddiadau trefol cynaliadwy eraill o dan yr opsiwn, er bod safleoedd o'r fath o fewn yr ardaloedd mwy cyfyngedig yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol.

Nid yw'r opsiwn yn ddigon hyblyg o ran lleoliad safleoedd ymgeisiol ac a ydynt wedi pasio'r gwerthusiad datblygu ar y cam blaen-lwytho. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd yr aneddiadau a'r safleoedd mwyaf cynaliadwy yn cael eu diystyrru yn yr ymgais i ddosbarthu twf ar draws yr ardaloedd trefol yn unig, a gall hyn yn ei dro hefyd gael effaith negyddol ar gynaliadwyedd rhai aneddiadau gwledig. Ar y cam hwn o baratoi'r CDLlN mae safleoedd ymgeisiol yn dal i gael eu hystyried a'u gwerthuso a bydd y rhain yn sail i'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Mae'r opsiwn hyn yn seiliedig ar Gynllun Gofodol Cymru, sydd yn hygyrch iawn o ran priffyrdd a rheilffyrdd strategol, yn ogystal â dulliau teithio eraill mwy cynaliadwy.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Bydd yr ardal dwf a ddiffinnir yn cynnwys amryw o ardaloedd marchnad tai lleol, o ardaloedd lle mae'r farchnad yn gryf iawn fel Llandudno i ardaloedd ychydig yn fwy gwan. Fodd bynnag, nid yw parth twf Cynllun Gofodol Cymru yn cynnwys ardaloedd lle mae'r farchnad yn wan iawn yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol. Bydd yr Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy (BP10) yn sylfaen ychwanegol i lywio'r dosbarthiad twf yn y Strategaeth a Ffefrir.

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Trwy ganolbwyntio'r holl dwf ar ardal ddaearyddol ddiffiniedig, gall fod llai o hyblygrwydd i gynnal newid (fel Arolygydd yn nodi'r angen am ddyraniadau ychwanegol) gan y byddai llawer o aneddiadau sydd yn gynaliadwy fel arall, y tu hwnt i'r ardal dwf. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cael ei lunio ar hyn o bryd a bydd hefyd yn cael ei ystyried o ran hyblygrwydd.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Ar yr wyneb, mae'n ymddangos bod canolbwyntio ar ardal dwf yn cyd-fynd â pholisi cenedlaethol o ran cysylltu cyflogaeth a thwf tai. Trwy ganolbwyntio twf ar ardal ddaearyddol mor fach, nid yw'r opsiwn hwn yn rhoi cyfle i aneddiadau cynaliadwy eraill geisio tyfu a darparu ar gyfer eu hanghenion eu hunain. Ar y llaw arall, i'r gwrthwyneb, mae cyfyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd trefol y tu allan i Gynllun Gofodol Cymru. Mae rhagor o waith yn mynd rhagddo yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol i ddeall perygl llifogydd a phennu cyfleoedd datblygu. Bydd y gwaith hwn yn sylfaen ychwanegol i lywio'r strategaeth a ffefrir ar ddyddiad mwy diweddar yn y cam CDLlN.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys y mecanwaith angenrheidiol i hyrwyddo tir llwyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd dileu risgiau mewn rhai ardaloedd oherwydd costau seilwaith uchel a chyfyngiadau.

Opsiwn 3: Crynodeb
Mae'n ymddangos bod yr opsiwn hwn yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r dyheadau twf cyflogaeth a nodwyd yn yr Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r Asesiad o'r Farchnad Eiddo, drwy ganolbwyntio datblygiad ar ardal dwf a ddiffinnir ar hyd y llwybr trafnidiaeth allweddol. Er ei fod yn adlewyrchu ardaloedd twf Cynllun Gofodol Cymru, nid yw'n cydnabod bodolaeth lleoliadau cynaliadwy ychwanegol i gynnal twf posibl a gallai osod pwysau gormodol ar seilwaith petai'n canolbwyntio gormod ar un ardal.
map%208

Opsiwn 4: Twf trefol wedi'i ganolbwyntio yn unol â Chynllun Gofodol Cymru ac Aneddiadau Dibynnol

Disgrifiad: Cyfeirio datblygiad yn unol ag Aneddiadau Cynradd Allweddol ac Aneddiadau Dibynnol Cynllun Gofodol Cymru, gyda chapasiti'r seilwaith i gynnal datblygiad. Yn yr ardal wledig y tu hwnt i'r aneddiadau dibynnol byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu er mwyn gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg i gyflwyno a diwallu anghenion tai lleol gan warchod cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd.

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar dynnu ffin ar fap sydd yn seiliedig ar ardaloedd twf yng Nghynllun Gofodol Cymru ac opsiynau'r hierarchaeth aneddiadau a nodir yn Opsiynau 4 a 5.

Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Conwy, Cyffordd Llandudno, Llandudno (gan gynnwys Deganwy a Llanrhos), Llanfairfechan a Phenmaenmawr, Dwygyfylchi, Glan Conwy a Llanddulas

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn fwy addas ar gyfer Opsiynau 4 a 5 yr hierarchaeth aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o'r opsiynau hyn yn yr hierarchaeth aneddiadau. Er enghraifft, gall yr ardaloedd trefol a'r aneddiadau dibynnol newid yn dibynnu ar y twf a ddewisir. Mae'r rhan fwyaf o Ardal Cynllun Conwy o fewn Ardal Strategaeth Gogledd Ddwyrain Cynllun Gofodol Cymru (2008). At hynny, mae sawl anheddiad un ai yn gyfan gwbl yn ardal y Gogledd Orllewin fel Llanfairfechan a Phenmaenmawr, neu maent yn cael eu rhannu rhwng y ddau ranbarth (Llandudno, Conwy, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn a Llanrwst). Golyga hyn fod yr aneddiadau trawsffiniol hyn mewn sefyllfa strategol i gysylltu'r ddwy ardal yng Nghymru a thu hwnt; trwy gysylltiadau â Lloegr ac Iwerddon. Mae Llanrwst hefyd yn gysylltiedig â thrydedd ardal Strategaeth: Canolbarth Cymru.

Deddfwriaeth allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Mae hwn yn debyg i Opsiwn 3, ond mae hefyd yn dosbarthu rhywfaint o dwf i'r Aneddiadau Dibynnol. Nid yw'r opsiwn hwn yn dosbarthu twf i'r un graddau ag Opsiwn 1 (CDLl cyfredol) i Aneddiadau Haen 2. Ystyrir felly ei fod yn cyd-fynd â Chynllun Gofodol Cymru ac ystyrir ei fod yn gydnaws â Pholisi Cynllunio Cymru o ran nodi'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygu, gan mai yn yr aneddiadau mwyaf hyn y mae'r seilwaith, gwasanaethau, cyfleusterau a thir yn gyffredinol. Mae'r dull gweithredu hefyd yn ystyried y pum Egwyddor Cynllunio allweddol ac yn adlewyrchu casgliadau'r Adolygiad Tir Cyflogaeth a'r Asesiad o'r Farchnad Eiddo. Byddai datblygu ac adfywio aneddiadau yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol hefyd yn gofyn am bolisi diffiniedig er mwyn sicrhau ei fod yn cyfrannu at fannau cynaliadwy. Trwy ganolbwyntio ar yr opsiwn twf ehangach hwn, mae'n sicrhau nad yw rôl aneddiadau cynaliadwy eraill yn cael ei diystyrru. Nid yw'r opsiwn hwn yn anwybyddu'r rhan y gall aneddiadau dibynnol cynaliadwy ei chwarae i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Unwaith yn rhagor, mae hwn yn debyg i Opsiwn 3, ond mae'n cynnig ardal dwf ehangach i sicrhau bod modd cyflawni twf o ran y dystiolaeth a'r opsiynau lefel twf. Byddai'r opsiwn felly yn bodloni strategaethau ehangach, ac yn canolbwyntio datblygiad i ffwrdd o'r ardaloedd cyfyngedig yn y Dwyrain. Byddai hefyd yn gwneud y mwyaf o botensial y 'canolbwynt' twf ar hyd yr arfordir, yn unol â Chynllun Gofodol Cymru.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'r opsiwn dosbarthiad twf hwn yn bodloni'r sylfaen dystiolaeth bresennol o ran lleoliadau cynaliadwy i gynnal anghenion datblygu'r gymuned. Mae'n bosibl nad oes gan aneddiadau yn is i lawr yr hierarchaeth y seilwaith ac amodau farchnad angenrheidiol i gynorthwyo twf.

Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Bydd twf sy'n canolbwyntio ar y lleoliadau cynaliadwy a nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru a'r Aneddiadau Dibynnol yn darparu mwy o gyfleoedd i annog ffyrdd o fyw iach ac actif. Er enghraifft, bydd twf ehangach o bosibl yn cynorthwyo i gyflwyno Cynllun Teithio Llesol Conwy ar raddfa ehangach

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Gall yr opsiwn dosbarthiad twf effeithio ar yr Aneddiadau Allweddol fel Penmaenmawr, Llanfairfechan ac Aneddiadau Dibynnol a gwanhau sefyllfa'r Gymraeg. Fodd bynnag, bydd cyfleoedd datblygu newydd hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg lleol i aros yn yr ardal a chael mynediad at dai a swyddi addas, nad ydynt ar gael ar hyn o bryd o bosibl. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar yr iaith Gymraeg a mesurau lliniarol posibl.

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Trwy ganolbwyntio ar dwf sy'n ehangach na Chynllun Gofodol Cymru a'r Aneddiadau Dibynnol, mae'n debygol y bydd yn cael llai o effaith ar gapasiti'r seilwaith nag y byddai dosbarthiad twf mwy penodol. Mae Asesiad Seilwaith llawn yn mynd rhagddo i lywio'r CDLlN a bydd hwn yn ei dro yn sylfaen i'r strategaeth a ffefrir.

Cyfyngiadau - ystyriaeth o gyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol allweddol

Trwy ganolbwyntio twf yn ehangach ar yr Aneddiadau Dibynnol cynaliadwy, mae hyn yn debygol o roi llai o bwysau ar amrywiaeth eang o gyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol mewn rhai aneddiadau ac o'u hamgylch. Mae aneddiadau cynaliadwy lle nad oes llawer o gyfyngiadau y tu allan i haenau uwch Cynllun Gofodol Cymru yn cael eu hystyried o dan yr opsiwn hwn ac felly mae hyn yn sicrhau bod y CDLlN mewn gwell sefyllfa i oresgyn cyfyngiadau a phroblemau yn ymwneud â seilwaith.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Mae cyfran da o ymrwymiadau o fewn yr haenau uwch a nodwyd yn y CDLl ond i raddau llai yn yr aneddiadau dibynnol, er bod rhai o'r rhain yn dal heb eu datblygu. Hefyd, mae rhai o'r ymrwymiadau presennol y tu hwnt i'r parth twf diffiniedig, fel Abergele.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Mae'r opsiwn yn sicrhau bod modd ystyried safleoedd ymgeisiol eraill, yn ychwanegol at y rhai sydd o fewn ardal dwf Cynllun Gofodol Cymru (h.y. Opsiwn 3). Mae nifer o'r safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd hyd yma o fewn yr ardal dosbarthiad twf a ddiffiniwyd. Unwaith eto, ni fyddai'n bosibl ystyried safleoedd ymgeisiol mewn aneddiadau trefol cynaliadwy o dan yr opsiwn hwn, er bod safleoedd o'r fath o fewn yr ardaloedd mwy cyfyngedig yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol.

Ar y cam hwn o baratoi'r CDLlN, mae safleoedd ymgeisiol yn dal i gael eu paratoi a'u gwerthuso a bydd hyn yn sylfaen i lywio'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar Gynllun Gofodol Cymru ac aneddiadau cynaliadwy haen 1 a nodwyd, sydd yn hygyrch iawn oherwydd bodolaeth priffyrdd a rheilffyrdd strategol, yn ogystal â dulliau trafnidiaeth cynaliadwy eraill.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Bydd yr ardal dwf a ddiffiniwyd yn cynnwys amryw o ardaloedd marchnad tai lleol, o ardaloedd lle mae'r farchnad yn gryf iawn, fel Llandudno, i ardaloedd lle mae'r farchnad yn fwy gwan. Fodd bynnag, nid yw parth twf Cynllun Gofodol Cymru a'r aneddiadau dibynnol yn cynnwys ardaloedd lle mae'r farchnad yn wan iawn yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol. Bydd yr Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy (BP10) yn sylfaen ychwanegol i lywio dosbarthiad y twf yn y Strategaeth a Ffefrir. Nid yw'r opsiwn yn cynnig dosbarthu twf i aneddiadau'r haen isaf, oherwydd bod amodau'r farchnad o dan ragor o bwysau wrth gyflenwi tai a chyflogaeth.

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Trwy ddosbarthu twf yn ehangach nag ardaloedd Cynllun Gofodol Cymru, mae'n darparu mwy o hyblygrwydd i gyflenwi'r CDLlN. Mae'n darparu mwy o hyblygrwydd i gynnal newid (fel Arolygydd yn nodi'r angen am ddyraniadau ychwanegol). Mae'r Cyngor yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatblygu yn nwyrain y Sir, a bydd hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd os ystyrir bod modd ei ddarparu. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cael ei lunio ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ystyried o ran hyblygrwydd.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Mae'r cysyniad o ddosbarthu twf ar draws ardal benodol eang yn cyd-fynd i raddau helaeth iawn â pholisi cenedlaethol o ran cysylltu cyflogaeth a thwf tai. Trwy ganolbwyntio twf ar ardal eang bydd cyfle i aneddiadau eraill dyfu mewn ffordd gynaliadwy. Ar y llaw arall, i'r gwrthwyneb, mae cyfyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd trefol y tu allan i Gynllun Gofodol Cymru a'r aneddiadau dibynnol. Mae rhagor o waith yn mynd rhagddo yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol i ddeall perygl llifogydd a phennu cyfleoedd datblygu. Bydd y gwaith hwn yn sylfaen ychwanegol i lywio'r strategaeth a ffefrir ar ddyddiad mwy diweddar yn y cam o baratoi'r CDLlN.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys y mecanwaith angenrheidiol i hyrwyddo tir llwyd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd dileu risgiau mewn rhai ardaloedd oherwydd costau seilwaith uchel a chyfyngiadau.

Opsiwn 4: Crynodeb
Mae'r opsiwn dosbarthiad twf hwn yn dosbarthu rhywfaint o dwf i'r Aneddiadau Dibynnol cynaliadwy yn ogystal ag ardaloedd twf Cynllun Gofodol Cymru. Nid yw'r opsiwn hwn yn dosbarthu twf i'r un graddau ag Opsiwn 1 (y CDLl cyfredol) i Aneddiadau Haen 2, lle mae cyfyngiadau o ran cynaliadwyedd ac amodau marchnad anodd. Ystyrir, felly, bod yr opsiwn hwn yn cyd-fynd â chanllawiau a deddfwriaeth genedlaethol yng Nghymru o ran nodi'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygu, gan mai yn yr aneddiadau mwyaf hyn y mae'r seilwaith, gwasanaethau, cyfleusterau a thir. Yn yr ardaloedd gwledig y tu hwnt i'r Aneddiadau Dibynnol byddai polisi wedi'i fireinio yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod dull gweithredu mwy hyblyg ar waith wrth gyflwyno a darparu ar gyfer anghenion tai lleol gan warchod y cymeriad lleol a'r cefn gwlad agored ar yr un pryd. At hyn, mae angen gwell dealltwriaeth o'r cyfyngiadau yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol a sicrhau bod strategaeth adfywio briodol yn cael ei diffinio mewn polisi.

map%209

Opsiwn 5: Canolfannau a Choridorau

Disgrifiad: Byddai datblygiad yn cael ei ddosbarthu ar sail dehongliad caeth o ganolfannau a llwybrau trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Hen Golwyn), Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy, Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Tywyn/Bae Cinmel, Llanddulas, Dwygyfylchi* a Glan Conwy

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn addas ar gyfer pob un o opsiynau'r Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir y dosbarthiad twf hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o opsiynau'r hierarchaeth aneddiadau.

Deddfwriaeth Allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Un o egwyddorion allweddol Polisi Cynllunio Cymru yw dosbarthu datblygiadau mewn ffordd gynaliadwy, yn seiliedig ar system drafnidiaeth gynaliadwy gyda phwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a dulliau trafnidiaeth cynaliadwy eraill. Mae gan y Sir rwydwaith ffyrdd strategol sy'n cynnwys yr A55, Rheilffordd yr Arfordir, yr A470, yr A5 a Rheilffordd Dyffryn Conwy. Gall y coridorau hyn wrthdaro â swyddogaeth drafnidiaeth strategol llwybrau o'r fath a allai gael eu peryglu drwy annog traffig a theithiau lleol.

Byddai canolbwyntio twf ar 'ganolfannau' a choridorau trafnidiaeth yn arwain at ganlyniadau cymysg. Ar un llaw, byddai aneddiadau ar hyd y rheilffyrdd yn lleoliadau cynaliadwy ar gyfer twf, cyn belled bod y gwasanaethau rheilffyrdd a gynigir yn gallu cynnig newid sylfaenol yn y ddarpariaeth gwasanaeth. Byddai twf o fewn pellter cerdded rhesymol i lwybrau bysiau a nodau e.e. canol trefi, yn gyfystyr â datblygu cynaliadwy, ond byddai'n rhaid cyflawni hyn drwy opsiynau twf eraill a nodir uchod.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Mae'r opsiwn yn cynnig ardal dwf ehangach na rhai opsiynau eraill ac felly byddai'n sicrhau bod modd bodloni'r dystiolaeth a'r opsiynau lefel twf.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'r opsiwn twf hwn yn bodloni'r sylfaen dystiolaeth gyfredol o ran lleoliadau cynaliadwy i gynnal anghenion datblygu'r gymuned. Mae'n debygol na fydd gan aneddiadau yn is i lawr yr hierarchaeth y seilwaith trafnidiaeth angenrheidiol ac felly gall hyn gael effaith negyddol arnynt.

Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Dylai twf sy'n canolbwyntio ar leoliadau cynaliadwy a nodir ar hyd llwybrau trafnidiaeth da gynnig rhagor o gyfleoedd i annog ffyrdd o fyw iach ac actif. Fodd bynnag, gallai rhagor o ddatblygu ar hyd yr A470 a'r A5 o bosibl annog mwy o ddefnydd o geir oni bai y darperir defnydd cymysg cyflogaeth/tai yn y CDLlN.

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Bydd cyfleoedd datblygu newydd ar hyd yr A470/A5/Llinell Dyffryn Conwy yn annog siaradwyr Cymraeg lleol i aros yn yr ardal a chael mynediad at dai a swyddi addas, er bod cyfyngiadau o ran y tir sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar y Gymraeg a mesurau lliniarol posibl

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Byddai hyn yn rhoi pwysau datblygu sylweddol ar yr aneddiadau hynny ar hyd coridorau trafnidiaeth a ger canolfannau strategol. Byddai gweithredu yn y dull hwn yn gosod pwysau gormodol ar seilwaith presennol ac mae'n bosibl na fyddai gan rai aneddiadau digon o dir, gwasanaethau a chyfleusterau i gynnal twf. Ar y llaw arall, bydd cyfnewidfeydd ar hyd yr A55 wedi'u lleoli mewn ardaloedd cefn gwlad agored lle nad oes seilwaith yn bodoli ar hyn o bryd fel sail i ddatblygiadau newydd. Fodd bynnag, gellid gweithredu yn yr un modd ar gyfer y 4 opsiwn arall a nodwyd uchod.

Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol allweddol

Mae rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a'r A55 yn rhedeg drwy ardaloedd yn y Sir lle mae nifer o gyfyngiadau gan gynnwys perygl llifogydd, safleoedd tir llwyd wedi'u halogi, lletem werdd ac agosrwydd at ddynodiadau cadwraeth natur rhyngwladol. Y prif gyfyngiad yw perygl llifogydd yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol. Fodd bynnag, mae rhagor o dystiolaeth yn cael ei chasglu i asesu'r posibilrwydd ar gyfer datblygu drwy gynnig atebion dylunio blaengar, a fydd yn sylfaen i lywio'r strategaeth derfynol yn y CDLlN. Byddai datblygu ar hyd yr A55 yn arwain at ddatblygiadau anghynaliadwy yn seiliedig ar ddefnydd o geir mewn lleoliadau cefn gwlad agored.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Mae rhai o'r ymrwymiadau presennol o fewn yr aneddiadau sydd gerllaw'r rhan fwyaf o lwybrau trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae ymrwymiadau eraill y tu allan i'r canolfannau a choridorau. Mae hyn yn codi amheuaeth ynghylch pa mor ddilys yw dull gweithredu o'r fath pan nad yw'n rhoi ystyriaeth ddigonol i'r darlun ehangach ar draws y Sir.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Bydd y rhan fwyaf o'r safleoedd ymgeisiol, ond nid y cyfan ohonynt, ym mharth y canolfannau a'r coridorau. Ni fyddai'n bosibl ystyried safleoedd ymgeisiol mewn aneddiadau cynaliadwy eraill. Ar y cam hwn o lunio'r CDLlN mae safleoedd ymgeisiol yn dal i gael eu paratoi a'u gwerthuso a byddant yn sylfaen i lywio'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Byddai hygyrchedd yn amlwg yn dda o dan yr opsiwn hwn. Fodd bynnag, mae rhai llwybrau yn debygol o weld cynnydd yn y defnydd o geir.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Bydd yr aneddiadau sydd nid yn unig wrth ymyl y rheilffyrdd ond sydd hefyd gerllaw gorsafoedd, yn cynnwys cymysgedd o ardaloedd marchnad tai. Ar y llaw arall, byddai lleoli'r holl ddatblygiadau mewn lleoliadau ar hyd y priffyrdd strategol, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad agored ar hyd yr A55 mewn ardaloedd lle mae'r farchnad yn gryf ac yn ddeniadol. Fodd bynnag, yr eithriad i hyn yw'r tiroedd yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol ar hyd coridor yr A55/rheilffordd.

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Nid yw'r opsiwn hwn yn cael ei ystyried yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau annisgwyl fel Arolygydd yn nodi'r angen am ddyraniadau ychwanegol. Byddai anwybyddu rhannau mawr o'r Sir yn ogystal ag aneddiadau allweddol yn golygu na fyddai digon o hyblygrwydd i nodi safleoedd ychwanegol.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Mae cyfeirio twf ar sail agosrwydd at goridorau trafnidiaeth a nodau i raddau helaeth yn tynnu ar y berthynas rhwng datblygu tai a chyflogaeth o ystyried mai yn yr ardal hon yn y Sir y mae'r rhan fwyaf o gyflogaeth ac mae'n cael ei hyrwyddo felly yn y Dadansoddiad o'r Farchnad Fasnachol (BP19). Fodd bynnag, nid yw'r opsiwn yn addas ar gyfer cynllunio cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig ac aneddiadau a gallai lleoli twf ar hyd priffyrdd arwain at batrymau datblygu anghynaliadwy.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae gan yr opsiwn hwn fecanweithiau cyfyngedig i hyrwyddo tir llwyd, er y gallai'r defnydd o ragor o safleoedd tir glas ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth o bosibl fod o gymorth i ddileu risgiau.

Opsiwn 5: Crynodeb
I ryw raddau, mae elfennau o'r opsiwn hwn yn debyg i ddull gweithredu'r ardaloedd twf yng Nghynllun Gofodol Cymru gan eu bod yn canolbwyntio ar aneddiadau trefol allweddol ar hyd llwybrau trafnidiaeth allweddol. Fodd bynnag, nid yw'r opsiwn yn un ar gyfer y Sir i gyd gan ei fod yn anwybyddu ardaloedd helaeth o'r Sir, yn enwedig yr ardaloedd gwledig; eto i gyd, gallai fod o gymorth i gynnal twf anghynaliadwy mewn aneddiadau gwledig neu o bosibl ger cyffyrdd ar hyd llwybr y ffyrdd strategol allweddol. Mae lle i amau hefyd pa ran y byddai'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gallu ei chwarae o ran cynnal anghenion y Sir ar gyfer datblygu a'i allu i ddarparu ar gyfer gofynion o ran symud. Yn hytrach na bod yn sail gadarn i gyfiawnhau strategaeth ofodol yn ei rhinwedd ei hun, mae efallai'n fwy addas fel cyd-destun lefel uwch i lywio'r strategaeth ofodol a ddewisir.

map%2010

Opsiwn 6: Anheddiad Newydd / Estyniad Mawr

Disgrifiad: Byddai datblygiad yn cael ei ddosbarthu drwy Anheddiad Newydd neu drwy Estyniad Mawr (defnydd cymysg tai a chyflogaeth)

Dosbarthiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Annedd Newydd neu Estyniad Mawr

Opsiynau Cysylltiedig yr Hierarchaeth Aneddiadau: Yn addas ar gyfer pob un o opsiynau'r Hierarchaeth Aneddiadau. Os dewisir yr opsiwn twf gofodol hwn bydd yn debygol o adlewyrchu un o opsiynau'r hierarchaeth aneddiadau.

Deddfwriaeth Allweddol - Ystyriaeth o Bolisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, y Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy i adlewyrchu Lle Cynaliadwy

Un o brif egwyddorion Polisi Cynllunio Cymru yw darparu dosbarthiad cynaliadwy o ran datblygu, yn seiliedig ar system drafnidiaeth gynaliadwy gyda phwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a dulliau trafnidiaeth gynaliadwy eraill. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod 'aneddiadau newydd ar safleoedd maes glas yn annhebygol o fod yn briodol yng Nghymru, ac ni ddylid ond eu cynnig lle y byddai datblygiad o'r fath yn arwain at fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol o'u cymharu ag adfywio'r aneddiadau presennol neu eu hehangu fwy fyth'.

Mae fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) hefyd yn nodi:

Paragraff 2.61 Oherwydd eu natur strategol dim ond fel rhan o CDLl ar y cyd, CDS neu'r FfDC, dylid cynnig aneddiadau newydd neu estyniadau trefol mawr o 1,000 neu fwy o anheddau, a fydd yn effeithio ar fwy nag un awdurdod lleol.

Paragraff 2.62 Ni ddylid cynnig aneddiadau newydd oni bai bod datblygiad o'r fath yn cynnig manteision amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol o gymharu ag ehangu neu adfywio aneddiadau presennol a lle byddai'r gwaith o ddarparu nifer fawr o gartrefi yn cael ei gefnogi gan yr holl gyfleusterau, swyddi a gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl i greu Man Cynaliadwy. Mae angen iddynt fod yn hunangynhwysol ac nid yn drefi noswylio sy'n ymestyn tu hwnt i ardaloedd trefol mwy.

Er gwaethaf yr hyn a nodir uchod, mae'n bosibl bod cyfle i ddarparu estyniad mawr i anheddiad trefol presennol lle mae'r seilwaith angenrheidiol ar gael. Mae'r opsiwn hwn hefyd yn caniatáu ar gyfer twf posibl yn yr ardaloedd lle mae'r farchnad yn uwch.

Strategaethau Ehangach - ystyriaeth o Fargen Dwf Gogledd Cymru, Strategaeth Economaidd Conwy, ac ati.

Byddai'r opsiwn yn sicrhau bod twf yn cael ei gynnig mewn ardaloedd lle mae hygyrchedd yn dda i gyflenwi twf economaidd.

Sylfaen Dystiolaeth - fel yr Arolwg Tir Cyflogaeth, Asesiad o'r Farchad Eiddo, Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'r opsiwn dosbarthiad twf hwn yn bodloni'r sylfaen dystiolaeth bresennol o ran lleoliadau cynaliadwy i gynnal anghenion datblygu'r gymuned. Gall aneddiadau yn is i lawr yr hierarchaeth gael eu hanwybyddu ac felly gall hyn gael effaith negyddol arnynt.

Ffyrdd o Fyw Iach, gan gynnwys Teithio Llesol - a fydd yr opsiwn yn datblygu ac yn cynnal lleoedd sy'n meithrin ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob oedran a grwpiau sosio-economaidd

Dylai twf sy'n canolbwyntio ar un lleoliad ar hyd llwybrau trafnidiaeth da gynnig mwy o gyfle i annog ffyrdd o fyw actif ac iach.

Y Gymraeg a Chreu Lleoedd - a fydd yr opsiwn yn ceisio sicrhau dosbarthiad eang a datblygu fesul cam sy'n ystyried gallu'r ardal neu gymuned i gynnal datblygiad heb gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg

Gallai cyfle datblygu newydd mewn un lleoliad annog siaradwyr Cymraeg i adael aneddiadau eraill lle na fyddai twf yn cael ei gynnig. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r effaith ar yr iaith Gymraeg a mesurau lliniarol posibl.

Capasiti'r Seilwaith - sicrhau bod capasiti'r seilwaith yn ddigonol neu fod modd ei ddarparu

Byddai hyn yn rhoi llawer o bwysau datblygu ar yr ardal a ddewisir ac felly byddai'n rhaid cael seilwaith, a allai yn ei dro gael effaith ar rwymedigaethau cynllunio fel tai fforddiadwy.

Cyfyngiadau - ystyried cyfyngiadau ffisegol neu amgylcheddol

Mae'r opsiynau ar gyfer anheddiad newydd yn debygol o gael eu gwireddu dim ond drwy ddefnyddio lletemau gwyrdd presennol, a gallai hyn yn ei dro gael effaith ar dirweddau naturiol a hanesyddol.

Ymrwymiadau - ystyried lleoliad ymrwymiadau presennol a'r tebygolrwydd o'u cwblhau (y rheini sydd â chaniatâd cynllunio)

Gall rhai o'r ymrwymiadau presennol fod yn yr ardal arfaethedig.

Safleoedd Ymgeisiol - Cydnabod faint o Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael a'u dosbarthiad (asesir hyn ymhellach wrth fwrw ymlaen â'r Strategaeth a Ffefrir).

Ar y cam hwn yn y gwaith o baratoi'r CDLlN mae safleoedd ymgeisiol yn dal i gael eu hystyried a'u gwerthuso a bydd hyn yn sail i'r opsiwn twf terfynol a'r Strategaeth a Ffefrir.

Hygyrchedd - sicrhau bod mynediad hwylus at wasanaethau, cyfleusterau allweddol a chyflogaeth yn ogystal â nodau a choridorau trafnidiaeth

Byddai hygyrchedd yn amlwg yn dda o dan yr opsiwn hwn yn dibynnu ar yr estyniad priodol. Byddai'n rhaid i anheddiad newydd hefyd ystyried cysylltiadau da gyda rheilffyrdd /ffyrdd. Fodd bynnag, mae rhai llwybrau yn debygol o weld cynnydd yn y defnydd o geir.

Amodau'r farchnad dai leol - sicrhau bod y strategaeth yn rhoi ystyriaeth i nodweddion allweddol ardaloedd y farchnad dai leol yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Mae'n bosibl y gellid lleoli'r opsiwn yn yr ardaloedd marchnad uwch a byddai hyn yn ei dro yn cynyddu'r rhwymedigaethau cynllunio fel tai fforddiadwy.

Hyblygrwydd - sicrhau bod opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau neu newidiadau annisgwyl yng ngalw'r farchnad

Ni ystyrir bod yr opsiwn yn ddigon hyblyg i wrthsefyll amgylchiadau annisgwyl fel Arolygydd yn ystod archwiliad yn nodi'r angen am fwy o ddyraniadau. Hefyd, ni fyddai anwybyddu rhannau mawr o'r Sir yn ogystal ag aneddiadau allweddol yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol i nodi safleoedd ychwanegol.

Gweledigaeth ac amcanion y CDLlN sy'n dod i'r amlwg - a fydd yr opsiwn yn gwireddu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig y CDLlN (bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar y mater hwn ar gamau hwyrach er mwyn bod yn sail i'r Strategaeth a Ffefrir)

Byddai cyfeirio twf i anheddiad newydd/ estyniad mawr yn anwybyddu ardaloedd adfywio ac aneddiadau allweddol eraill.

Tir Llwyd a Dileu Risgiau - a fydd yr opsiwn yn hyrwyddo tir llwyd ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n dileu risgiau wrth ddatgloi potensial datblygu safleoedd.

Mae gan yr opsiwn hwn fecanweithiau cyfyngedig i hyrwyddo tir llwyd, er y gallai'r defnydd o ragor o safleodd tir glas i gynorthwyo anheddiad newydd/estyniad mawr o bosibl fod o gymorth i ddileu risgiau.

Opsiwn 6: Crynodeb
Mewn rhai agweddau, gallai elfennau o'r opsiwn hwn ganolbwyntio'n benodol ar Gynllun Gofodol Cymru ac ardaloedd gwerth marchnad uwch, a byddai hyn yn ei dro yn cynyddu hyfywedd. Fodd bynnag, nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer y Sir i gyd gan ei fod yn anwybyddu rhannau helaeth o'r Sir. Byddai'r opsiwn hefyd yn arwain at gynnydd sylweddol yn y defnydd o draffig mewn un ardal. Byddai'n rhai ystyried yr opsiwn ymhellach yn dilyn yr alwad am safleoedd ac opsiynau am dwf penodol mewn anheddiad newydd neu estyniad mawr.

Ni ddarparwyd map.
Ystyrir Anheddiad Newydd /Estyniadau mawr i aneddiadau yn dilyn yr alwad am safleoedd.

Gall y CDLl terfynol fabwysiadu cyfuniad o un neu fwy o'r opsiynau, felly rydym yn awyddus i gael eich barn ar bob un. A fyddech cystal ag esbonio pa opsiwn, neu rannau o ba opsiwn, yw'r dewis gorau yn eich barn chi gan roi eich rhesymau dros hyn. A fyddech cystal â nodi hefyd a ydych o'r farn bod yr opsiynau yn realistig a bod modd eu gwireddu, a hefyd pa un yw'r opsiwn rydych chi'n ei ffafrio a pham. Bydd hyn yn ein helpu i lunio'r Strategaeth a Ffefrir.

(3) Cwestiwn 11: Pa un o'r opsiynau a nodir uchod yw'r opsiwn twf gofodol rydych chi'n ei ffafrio?

(3) Opsiwn 1

(4) Opsiwn 2

(3) Opsiwn 3

(3) Opsiwn 4

(3) Opsiwn 5

(3) Opsiwn 6

(2) Cwestiwn 12: A oes unrhyw opsiynau eraill y dylem eu cynnwys?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig