Galw am Safleoedd Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig 2024
Galw am enwebiadau ar gyfer Cofrestr Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn llunio cofrestr o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig ac mae’n chwilio am awgrymiadau ar gyfer adeiladau/strwythurau y gellid eu cynnwys ar y gofrestr.
Os oes gennych unrhyw enwebiadau ar gyfer y gofrestr hon, cyflwynwch nhw gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod – gweler Gwybodaeth am Gyflwyno.
Neu os yw’n well gennych, gallwch anfon neges e-bost gyda manylion eich adeiladau/strwythurau enwebedig at cdll.ldp@conwy.gov.uk, neu anfon llythyr i’r adran Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN. Sicrhewch fod unrhyw gynlluniau a gyflwynir i ni yn dangos lleoliad pob adeilad/strwythur a awgrymir yn glir a’ch manylion cyswllt hefyd.
Gwybodaeth am gyflwyno
Llenwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob adeilad/strwythur rydych chi am eu henwebu.
Ar ôl i chi ddechrau llenwi’ch ffurflen, bydd eich cynnydd yn cael ei arbed yn awtomatig er mwyn eich galluogi i’w chwblhau yn nes ymlaen. Gellir cael mynediad at unrhyw ffurflenni sydd heb eu cyflwyno trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis Drafftiau. Gallwch weld ac argraffu’r cyflwyniadau safle a gwblhawyd trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis y tab Heb eu prosesu. Mae botwm argraffu ar gael i bob ffurflen a gyflwynir.
Cyflwyno’r Cais
I gyflwyno eich adeilad(au)/strwythur(au) a awgrymir, cliciwch ar yr eicon pensil i’r chwith. Am fwy o gymorth, edrychwch ar y bocsys help melyn ar ddechrau a diwedd yr ymgynghoriad hwn.
Dylech fod yn ymwybodol y bydd y wybodaeth a gyflwynwch ar gael i’r cyhoedd. Trwy ymateb rydych yn derbyn y bydd eich ymateb a’r wybodaeth ynddo ar gael i’w gweld gan y cyhoedd.