Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel

Daeth i ben ar 26 Mai 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel

Fel y gwyddoch, fe lansiodd Towyn a Bae Cinmel eu Cynllun Lle ym mis Hydref 2022. Cafodd y Cynllun Lle ei greu gan bartneriaeth leol o'r enw TKB Voice yn dilyn proses ymgynghori drwy gydol 2022. Mae'r cynllun yn nodi'r hyn sydd ar y gymuned eisiau ei weld yn digwydd i'r ardal yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae TKB Voice yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn dod yn Ganllaw Cynllunio Atodol sy'n golygu y bydd y cynllun yn cael ei weld fel dogfen swyddogol ac yn destun ystyriaeth pan fydd syniadau newydd yn cael eu cynnig ar gyfer yr ardal. Os caiff hyn ei gymeradwyo, hwn fydd y Cynllun Lle cyntaf yng Nghonwy i gael statws Canllaw Cynllunio Atodol.

Er mwyn i hyn ddigwydd bydd yn rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ymgynghori â phawb yn y gymuned i dderbyn eu barn (bydd yr ymgynghoriad yn para 4 wythnos). Does arnom ni ddim eisiau eich barn am y cynllun ei hun. Rydym ni'n cydnabod y gwaith gwych sydd wedi'i wneud gan y gymuned a TKB Voice i greu'r cynllun ac felly pwrpas yr ymgynghoriad hwn ydi gweld a ddylid mabwysiadu'r Cynllun Lle yn Ganllaw Cynllunio Atodol.

Mae dogfen y Cynllun Lle ar gael ar wefan TKB Voice yma:

https://www.tkbvoice.wales/cy/community-toolkit

(4)Cwestiwn:

Ydych chi'n cytuno y dylai CBSC fabwysiadu Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel yn Ganllaw Cynllunio Atodol?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig