Galw am Safleoedd Tai Fforddiadwy

Daeth i ben ar 30 Medi 2022

Galw am safleoedd tai fforddiadwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn y broses o adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Unwaith i'r CDLl newydd gael ei fabwysiadu, bydd hwn yn gosod y polisïau cynllunio defnydd tir yn ystod y cyfnod 2018-2033.

Gwahoddir chi i gyflwyno safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy i'w cynnwys yn y CDLL, lle bydd o leiaf 50% o'r tai yn fforddiadwy (rhent cymdeithasol a /neu ganolradd). Os ydych wedi cyflwyno'r safle yn flaenorol, nid oes angen ei anfon eto. Os oes gennych ddiddordeb mewn symud ymlaen â safle sydd eisoes wedi'i gyflwyno ar gyfer cynllun tai fforddiadwy, cysylltwch â ni, gan ddyfynnu cyfeirnod ac enw'r safle ar cdll-ldp@conwy.gov.uk

Bydd unrhyw safle yn atebol i asesiad er mwyn nodi materion megis risg llifogydd, mynediad, bioamrywiaeth, ayb. Os ydych chi berchen neu'n gwybod am unrhyw dir a fyddai'n addas, cyflwynwch y safle gan ddefnyddio'r ffurflen isod.

Neu, os oes well gennych chi, gallwch anfon neges e-bost i ni gyda manylion y safle(oedd) i cdll.ldp@conwy.gov.uk neu ysgrifennwch atom ni i Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN. Sicrhewch fod unrhyw gynlluniau a gyflwynir i ni yn dangos ffiniau'r safle yn eglur ac yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Gwybodaeth am gyflwyno

Llenwch ffurflen newydd ar gyfer pob safle y dymunwch ei gyflwyno i'w asesu.

Ar ôl i chi ddechrau llenwi'ch ffurflen, bydd eich cynnydd yn cael ei arbed yn awtomatig er mwyn eich galluogi i'w chwblhau yn nes ymlaen. Gellir cael mynediad at unrhyw ffurflenni sydd heb eu cyflwyno trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis Drafftiau Gallwch weld ac argraffu'r cyflwyniadau safle a gwblhawyd trwy fynd i Fy Nghyfrif a dewis y tab Heb eu prosesu. Mae botwm argraffu ar gael i bob ffurflen a gyflwynir.

(37)Cyflwyno Safle

I gyflwyno'ch safle, cliciwch ar yr eicon pensel ar yr ochr chwith. Am fwy o gymorth, edrychwch ar y bocsys help melyn ar ddechrau a diwedd yr ymgynghoriad hwn.

 

Dylech fod yn ymwybodol y bydd manylion y safleoedd yn cael eu gwneud yn gyhoeddus. Bydd y wybodaeth a gyflwynwch ar gael i'r cyhoedd. Trwy ymateb rydych yn derbyn y bydd eich ymateb a'r wybodaeth ynddo ar gael i'w gweld gan y cyhoedd.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig