Object

Preferred Strategy

Representation ID: 29230

Received: 28/10/2019

Respondent: Mrs Beryl Griffiths

Representation Summary:

Yn eich penffled CDLL tud 3 un o'r gweledigaethau a nodir yw - Conwy lle mae'r Iaith Gymraeg yn Ffynnu - ni allaf weld sut mae'r Cynllun yma yn mynd i wireddu hyn.
Ynglyn a'r pwynt am Dai Fforddiadwy - mae hwn yn derm hawdd i'w gofnodi ond yn andros o broblem i'w gyflawni.
Ynglyn a'r pwynt a Sir Conwy yn gwarchod y amgylchfyd a newid hinsawdd - sut ar y ddaear y mae adeiladu 400 o dai ar dir amae thyddol gyda choedydd a bywyd gwyllt cynhenid yn gwneud unrhyw fath o synnwyr.

Full text:

Gweler y ddogfen sydd ynghlwm.

Attachments:


Our response:

Nodwyd: Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol wrth gynllunio ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac mae Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg yn rhan allweddol o sail dystiolaeth y CDLl newydd a fydd yn sicrhau bod y CDLl newydd yn cael yr effeithiau niweidiol lleiaf posib' ar y Gymraeg ac sy'n ceisio gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gadw siaradwyr Cymraeg ac annog defnydd o'r Gymraeg, trwy ddulliau fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol a darparu cyflogaeth.
Nodwyd: Mae darparu tai fforddiadwy'n cael ei reoli gan y CDLl newydd ac Asesiad y Farchnad Dai Leol.
Heb ei dderbyn: Mae angen cydbwysedd yn cynnwys twf tai newydd a gwella bioamrywiaeth mewn datblygiadau newydd.