Object

Preferred Strategy

Representation ID: 29212

Received: 20/09/2019

Respondent: Mrs Lowri Keddie

Representation Summary:

Amcan 1: Mae genau gonsyrn am sut mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn amddiffyn, gwarchod ac annog yr iaith Cymrraeg?
Amcan 2: Rwy'n bryderus am tai fforddiadwy.
Amcan 7: Yn fy mhentref lle rydw i yn bywr - sef Llanfairfechan mae caurau o 0% wedi ei glustnodi ar gyfer cyflogaeth o'r cynllun hyn.
Amcan 12+14: Sut mae adeiladu 400 o dai ar dir amaethyddol gyda coedwigaeth hen a brodorol yn gwarchod bywyd natur?

Full text:

Gweler y ddogfen sydd ynghlwm.

Attachments:


Our response:

Nodwyd. Ydi, mae proses adolygu'r CDLl yn datblygu yn unol â'r holl ofynion statudol gan gynnwys Deddf y Gymraeg, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol. Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol wrth gynllunio ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac mae Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg yn rhan allweddol o sail dystiolaeth y CDLl newydd a fydd yn sicrhau bod y CDLl newydd yn cael yr effeithiau niweidiol lleiaf posib' ar y Gymraeg ac sy'n ceisio gwneud y mwyaf o gyfleoedd i annog defnydd o'r Gymraeg, trwy ddulliau fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol a darparu cyflogaeth.
Bydd darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy ar safleoedd, wedi'i darparu gan ddatblygwyr. Bydd y rhain yn cael eu hadeiladu i ddiwallu anghenion lleol hysbys teuluoedd sydd ar y rhestr aros ar hyn o bryd.
Mae tir cyflogaeth wedi'i ddyrannu i adlewyrchu ein sail dystiolaeth (gweler papur cefndir 19). Bydd safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu diogelu trwy bolisi sy'n seiliedig ar feini prawf.
Bu'n rhaid cynnwys rhai safleoedd tir glas oherwydd diffyg tir a ddatblygwyd o'r blaen a oedd ar gael. Bydd yr effaith ar natur yn cael ei lliniaru yn unol â pholisi cenedlaethol. Bydd ymgynghoriad ar asedau treftadaeth yn rhan o waith y CDLl Newydd, a bydd yr asedau hynny'n cael eu gwarchod yn unol â pholisi cenedlaethol.