Object

Candidate Site Register

Representation ID: 27864

Received: 18/09/2019

Respondent: Rhys Griffith

Representation Summary:

Gwrthwynebaf adeiladu ar y safle yma oherwydd yr effaith ar ein iaith a'n diwylliant; yr effaith ar ein lonydd; yr effaith ar ein cefn gwlad a'r effaith ar ein hysgolion a'r meddygfa yma.


Change suggested by respondent:

Tynnu'r safle oddi wrth y cynllun datblygu

Full text:

Rwyf yn gwrthwynebu'n gryf adeiladu ar y safle yma. Bydd adeiladu tai yma yn gael effaith erchyll ar y cefn gwlad, y safleodd gwyrdd a'r bywyd gwyllt sydd yno ac o'i gwmpas. Yn waeth na hynny, nid yw'r priffyrdd o gwmpas y safle yn medru ymdopi hefo'r nifer enfawr o draffig sydd ar y lonydd yma rwan, a mi fydd adeiladu'r tai yma yn adio nifer enfawr o geir i'r lonydd yma. Bydd y traffig ar Lon Llaneilian a Coed Coch, a'r cyffordd Lon Peulwys/Lon Llanelian (sydd i gyd yn hynod y brysur rwan) yn gwaethygu - dydi arwyneb y lonydd yma ddim yn medru gwrthsefyll y traffig sydd yn teithio arno rwan. Does dim lle yn y meddygfa lleol na'r ysgolion lleol i fwy o drigolion yn yr ardal yma, a does dim warant bysa unrhyw meddygfa newydd yn denu doctoriad i'r ardal, yn enwedig wrth wybod yr anhawster recriwtio sydd gan y meddygfa yma yn barod (a'r ffaith fod y meddygfa arall yma wedi cau!) Yn olaf, teimlaf yn gryf fod adeiladu unrhyw dai newydd yn yr ardal yn mynd i gael effaith negyddol ar ein iaith Gymraeg a'n diwylliant. Does dim byd yn atal pobol o tua allan i'r ardal (neu tu allan i Gymru) prynu'r tai yma a chymudo i'w gwaith yn rhywle arall, neu ymddeol i fyw yma o ardal arall. Mae Cymraeg yn iaith lleiafrif Hen Golwyn yn barod - does dim eisiau gwanhau'r iaith yn bellach drwy adeiladu tai a fydd ar gael i bobol tu allan i'r ardal yma.


Our response:

Nodwyd. Mae safleoedd ymgeisiol fel hwn wrthi'n cael eu hasesu i weld a ydynt yn addas i'w cynnwys yn y CDLl i'w Archwilio gan y Cyhoedd. Os caiff ei ddewis, bydd y safle'n ymddangos ar y map cynigion fel dyraniad/y tu mewn i'r ffin anheddiad. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach yng ngham Archwilio'r CDLl gan y Cyhoedd.